Mae LNP Cymru yn gynllun parhaus a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan CGGC. Mae'r bartneriaeth yn cynnwys pob awdurdod lleol a pharc cenedlaethol yng Nghymru, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, CGGC a'r Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (CCALl).
Dyma rai enghreifftiau o’r prosiectau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru trwy brosiect yr LNP. Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn, o bell ffordd, gan fod nifer helaeth o brosiectau cyffrous yn digwydd ym mhob sir ar draws Cymru! Cliciwch yma i ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi, neu i weld sut gallwch chi gymryd rhan.
Coedwig Genedlaethol Cymru Ceredigion 23-25
Gweithiodd Partneriaeth Natur Leol (PNL) Ceredigion gyda chontractwyr a gwirfoddolwyr i adfer mynediad i goetir yng Nghoed Taliesin. Roedd coed pinwydd mawr a oedd wedi'u chwythu i lawr yn ystod storm Darragh wedi cau llwybrau ac roeddent yn beryglus.
darllen mwy
Cronfa Adeiladu Capasiti Arfordirol Sir Benfro 25-26
Mae arfordir Sir Benfro yn un o asedau naturiol mwyaf Cymru, gan gefnogi bywyd gwyllt o bwys rhyngwladol, cymunedau arfordirol bywiog a chyfoeth o gyfleoedd ar gyfer hamdden a llesiant.
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yw'r prif gynllun ariannu, sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o'r gwaith adfer natur a wneir gan y Partneriaethau Natur Lleol.
Bug housing boom
Creodd Partneriaeth Natur Leol Ynys Môn y prosiect Bug Housing Boom (Ffyniant Tai Pryfed) er mwyn: adeiladu gwestai pryfed
Cymdogaethau Naturiol
Bwriad Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent, fel rhan o’u prosiect Cymdogaethau Naturiol, oedd creu naw perllan gymunedol newydd ledled y fwrdeistref.
Bro Morgannwg/ Cronfa Her Lantra 25-27
Mae Lantra, elusen amgylcheddol sy'n gweithredu ledled y DU ac Iwerddon, yn cael ei chefnogi gan PNL Bro Morgannwg i gyflawni prosiect uchelgeisiol sy'n cyflenwi ffrwythau a llysiau ffres i ysgolion ledled Cymru.
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus, mae’r Cynllun Coedwig Genedlaethol Cymru (NFfW) yn parhau i weithio ar raddfa dirwedd i greu a gwella coedwigoedd ar hyd a lled Cymru.
Mannau Natur Cymunedol
Gwnaeth Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy ddatblygu’r prosiect Mannau Natur Cymunedol a Choridorau
Natur Caerdydd
Trwy’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Gweithredu Adfer Natur, daeth yn amlwg bod draenogod yn un o’r rhywogaethau allweddol sy’n peri gofid i bobl yng Nghaerdydd
Cronfa Her Merthyr Tudful 23-25
Roedd stryd breswyl ger Parc Taf Bargoed yn Nhreharris yn cael trafferth gyda llifogydd dro ar ôl tro adeg cyfnodau gwlyb drwy gydol y flwyddyn, oherwydd dŵr ffo a gwedd y safle.
Mae’r Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn ariannu prosiectau lleol mewn ardaloedd arfordirol yng Nghymru i ddod â phartneriaid at ei gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd
Cymunedau Gwyrdd
Mae coedwig hynafol Borth-y-Gest yn codi uwchlaw’r pentref. Ers talwm, defnyddiwyd y pren o’r safle gan y diwydiannau adeiladu llongau a lledr.
Dyfodol mwy gwyrdd
Gwnaeth Partneriaeth Natur Leol Sir y Fflint ddefnyddio cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i adfer dau bwll mewn ysgolion yn y sir
2026 LNP Cymruwebsite by WiSS