Mae Partneriaeth Natur Leol Caerdydd wedi defnyddio cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i newid y ffordd y caiff glaswelltiroedd mewn parciau a mannau agored eu rheoli ledled y ddinas a gwella bioamrywiaeth. Rai blynyddoedd yn ôl, cyflwynodd yr adran barciau system torri glaswellt ‘un toriad’ i ardaloedd o fewn parciau a mannau agored er mwyn darparu ystod mwy o amrywiol o gynefinoedd, cefnogi pryfed peillio a hybu cymuned fwy amrywiol o blanhigion. Mae nifer y safleoedd lle mae’r glaswellt yn cael ei dorri llai yn cynyddu o un flwyddyn i’r llall a pheiriannau wedi’u prynu i ehangu nifer y safleoedd lle y mae proses ‘torri a chasglu’ wedi’i rhoi ar waith.
Cafodd gwirfoddolwyr eu hyfforddi mewn gweithdai a ddatblygwyd gan LNP Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru i ddatblygu sgiliau nodi planhigion a thechnegau cynnal arolygon. Gwnaethant wedyn gynnal arolygon o blanhigion glaswelltir er mwyn casglu tystiolaeth leol o fuddion torri glaswellt yn llai aml ar amrywiaeth planhigion. Cafodd y canlyniadau eu defnyddio i ddangos yr effaith bositif y mae’r newidiadau hyn yn ei chael ar fyd natur ac i helpu i lywio penderfyniadau rheoli safle yn y dyfodol. Dengys y dystiolaeth fod parciau ac ymylon glaswelltog yn rhan bwysig o fioamrywiaeth ardaloedd trefol, a gall helpu’n fawr gyda gwydnwch yr ecosystem.
Gwnaeth yr haf anghyffredin o sych yn 2022 ei gwneud hi’n anoddach i nodi planhigion ar rai safleoedd gan fod y planhigion yn grin. Yn 2023, dechreuwyd cynnal arolygon ynghynt er mwyn mynd i’r afael â hyn. Hefyd, roedd rhai safleoedd a oedd wedi’u dynodi fel rhai ‘un torriad’ wedi’u torri gan dîm cynnal a chadw safleoedd y cyngor yn dilyn cwynion gan y cyhoedd. Fodd bynnag, mae barnau’r cyhoedd yn newid ac mae arwyddion “Iddyn Nhw” wedi helpu i egluro buddion y system un torriad. Mae’r adborth gan wirfoddolwyr wedi bod yn aruthrol o bositif, a bydd yr LNP yn parhau i recriwtio mwy o wirfoddolwyr i helpu gyda’r arolygon a’r gwaith o hybu’r system torri glaswellt newydd.
Dywedodd Ellie, arolygydd gwirfoddol: “Rydw i wedi mwynhau bod yn rhan o’r Arolwg Glaswelltiroedd Un Torriad, sy’n edrych ar Fioamrywiaeth, yn fawr iawn. Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn planhigion, ond nid oeddwn i’n gwybod llawer amdanyn nhw, er i mi wneud Safon A Bioleg flynyddoedd maith yn ôl. Rydyn ni wedi cael rhai sesiynau addysgu gwych ar blanhigion, pili-palod, gwyfynod, a gwenyn. Rwy’n teimlo’n weddol hyderus nawr y gallaf adnabod y planhigion gweunydd cyffredin a’r pili-palod cyffredin, a ches i fy syfrdanu gan y sesiwn ar wyfynod sy’n hedfan yn ystod y nos, a nododd rhwng 60 a 70 o wahanol rywogaethau yn Fferm y Fforest, gan gynnwys y Gwalchwyfyn yr Helyglys prydferth. Dangosodd yr arolwg Gweunydd Un Toriad yn glir fod yr amrywiaeth o blanhigion wedi cynyddu ynghyd â nifer y pili-palod a gwenyn a phryfed eraill.”
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS