English

100 o gartrefi newydd i adar mewn perygl Eryri

LNP Eryri

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (NWWT) a Phartneriaeth Natur Leol (LNP) Eryri wedi defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i geisio gwrthdroi dirywiad gwenoliaid duon a gwenoliaid y bondo ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Pryder cadwraeth uchel
Mae gwenoliaid duon a gwenoliaid y bondo wedi’u dynodi fel ‘pryder cadwraeth uchel’ yn ddiweddar ar restr goch y DU o adar sydd mewn perygl. Mae poblogaeth y gwenoliaid duon yng Nghymru yn benodol wedi syrthio 72% ers 1995.

Mae’r tîm yn NWWT ac LNP Eryri yn ceisio ymladd yn erbyn yr ystadegyn brawychus hwn drwy greu safleoedd nythu a chynefinoedd peillio newydd.

Daeth y cyllid ar gyfer y cynllun o gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a weinyddwyd gan brosiect LNP Cymru yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Mae’r cyllid yn caniatáu i’r tîm prosiect osod 100 o focsys nythu i wenoliaid duon, brics nythu, nythod i wenoliaid y bondo a chilfachau i wenoliaid ledled pentrefi a threfi ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

‘Rydyn ni eisoes wedi gweld tystiolaeth o wenoliaid duon yn defnyddio’r bocsys mewn mannau eraill, sy’n gwneud i ni feddwl y bydd y prosiect hwn yn ddefnyddiol, meddai Ben Stammers, Rheolwr Prosiect Gwennol yn NWWT, ‘ond r’yn ni’n gwybod y bydd yn cymryd amser – d’yn nhw ddim yn symud i mewn ar unwaith!’

Maen nhw hefyd yn mynd i’r afael â’r broblem o ran dirywiad pryfed drwy blannu cynefinoedd da i beillwyr yn agos at y safleoedd nythu newydd er mwyn cynyddu’r bwyd a fydd ar gael i’r adar mudol.

Defnyddiodd y tîm prosiect weddill y cyllid i osod systemau sain ‘galwadau denu’ ar 10 safle nythu mewn ymgais i ddenu adar i’w cartrefi posibl.

Ymgysylltu â chymuned Eryri

Mae’r nythod newydd yn cael eu gosod ar adeiladau sy’n cael eu defnyddio gan y cyhoedd yn bennaf, ond mae trigolion hefyd wedi cyfrannu at y prosiect drwy wirfoddoli eu cartrefi fel mannau i osod bocsys neu gwpanau nythu.

Mae’r tîm wedi ymrwymo crefftwyr lleol i’w helpu i ddarparu bocsys nythu wedi’u teilwra ar gyfer y gwahanol adar sy’n addas i’r adeiladau penodol y byddant yn eu defnyddio.

‘Roedden ni eisiau bod mor strategol â phosibl gyda’r prosiect hwn,’ meddai Ben. ‘Yn hytrach na phrynu llwyth o focsys nythu safonol, rydyn ni wedi defnyddio pobl leol i greu bocsys wedi’u haddasu ar gyfer safleoedd a fyddai, yn ein tyb ni, yn denu mwy o adar – gan wneud y prosiect mor effeithlon â phosibl.’

Er mai’r prif nod yw creu cartrefi ar gyfer adar mewn perygl, mae’r prosiect yn ffordd wych o ennyn diddordeb y gymuned yn eu byd natur lleol – gyda thai ac ysgolion yn gwirfoddoli i gael nythod wedi’u gosod, yn ogystal â gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi i helpu i gadw llygad ar eu cymdogion newydd.

Pedair ffordd y gallwch chi helpu adar mewn perygl yn eich ardal

  1. Gwnewch eich gardd yn ddymunol i adar – er enghraifft, plannwch blanhigion brodorol sy’n denu peillwyr, llwyni sy’n dwyn ffrwyth, a phwll dŵr
  2. Gosodwch focsys/cwpanau nythu ar gyfer gwenoliaid duon a gwenoliaid y bondo ar eich tŷ neu o’i amgylch
  3. Glanhewch y teclynnau bwydo adar yn rheolaidd – gall clefydau fel trichomonosis gael ei ledaenu drwy fwyd neu ddŵr halogedig. Os welwch chi aderyn sâl, rhowch y gorau i roi bwyd a dŵr allan iddo am gyfnod er mwyn arafu lledaeniad y clefyd.
  4. Cymerwch ran yn eich Partneriaeth Natur Leol – siop un stop ar gyfer arbenigedd a gweithgareddau natur lleol. Bydd gan eich Cydlynydd Natur Lleol gyfoeth o gyngor ar sut y gallwch chi gymryd rhan – efallai bod yna hyd yn oed prosiect ar gyfer adar mewn perygl y gallwch chi helpu ag ef!

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS