Pa un ai eich bod yn rhan o gynllun Caru Gwenyn, yn aelod o un o’r nifer o fudiadau cefnogi neu’n unigolyn pryderus, cymerwch olwg er mwyn gweld pa weithredoedd y gallwch eu cyflawni er mwyn gwneud Cymru’n wlad sy’n caru pryfed peillio.
Ceir Partneriaeth Natur Lleol (LNP) ym mhob ardal ar draws Cymru, pob un mewn sefyllfa unigryw i weithredu dros fyd natur ar lefel leol.
Ein nod yw ymgysylltu â phobl, cymunedau, busnesau a phenderfynwyr wrth weithredu'n ymarferol a chynllunio ar gyfer Cymru iach, wydn a chyfoethog o ran ei natur.
I ddarganfod mwy ynglŷn â Phrosiect LNP Cymru, cliciwch yma.
Mae eich Partneriaeth Natur Lleol (LNP) yn 'siop un stop' ar gyfer arbenigedd byd natur, prosiectau byd natur a gweithgareddau sy'n digwydd yn eich ardal chi. I weld beth sy'n arbennig ynglŷn â'ch ardal chi, megis yr amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau, y llefydd gorau i weld byd natur a'r prosiectau pwysig sy'n cael eu gweithredu, cliciwch yma.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan a rhoi help llaw i fyd natur, o ymuno â'r sgwrs ar-lein i ddod yn aelod o'ch LNP. Pa un a bod gennych rai munudau i'w sbario neu ddiwrnodau cyfan i'w rhoi, ymunwch â'r rhwydwaith LNP heddiw a gweithredwch dros fyd natur!
D’oes dim byd i guro ychydig o awyr iach ym myd natur
Mae ein LNPs yn gwybod pob dim ynglŷn â'r amrywiol ddigwyddiadau bywyd gwyllt a gynhelir yn eu hardal nhw, a hyd yn oed yn cynnal eu rhai eu hunain - o deithiau tywys i gyrsiau, gweminarau rhyngweithiol i ddiwrnodau hwyl a gwyliau i'r teulu, mae yna rywbeth i'w wneud o hyd.
I gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch LNP.
Dilynwch ein hynt a'n helynt ac ymunwch â ni ar @LNPCymru ar Trydar. Mae gan rai o'n LNPs eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu hunain hefyd felly cysylltwch ar Trydar i ganfod cynnwys ar gyfer eich ardal leol.
Dywedwch wrthym ni’r hyn yr ydych chi’n ei weld a ble. Byddem ni’n dwli clywed gennych chi
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS