Mae partneriaeth sy’n cynnwys Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymoedd i’r Arfordir, a Chlwb Adar Morgannwg wedi gosod nifer o flychau nythu ar Ystâd Marlas Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu cyfleoedd nythu newydd i wenoliaid sy’n dychwelyd o Affrica.
Cafodd ymwelwyr arbennig iawn yr haf…gwenoliaid..groeso cynnes yng Ngogledd Corneli fis diwethaf! Gobeithir y byddant yn sefydlu cartre’r haf parhaol yn eu blychau nythu newydd gan annog niferoedd i gynyddu.
Mae gwenoliaid yn dychwelyd o Affrica i’r un man bridio bob blwyddyn ac maent yn ffyddlon i’w partneriaid. Ond, mae eu niferoedd yn dirywio’n sylweddol oherwydd colli safleoedd nythu traddodiadol.
‘Mudwyr rhyfeddol yr haf…’
Mae monitro wedi dangos bod gwenoliaid yn yr ardal yn ystod eu cylchdaith o 14,000 o filltiroedd felly gosodwyd chwe blwch nythu mewn mannau priodol ar Ystâd Marlas.
Daw’r fenter o ganlyniad i bartneriaeth newydd rhwng Cymoedd i’r Arfordir (V2C), Clwb Adar Morgannwg (GBC) a Phartneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr.
‘Mae niferoedd gwenoliaid fel rhywogaeth yn dirywio,’ meddai Ymddiriedolwr GBC, Strinda Davies ‘ac, fel elusen sy’n ymrwymedig i gadwraeth a mwynhau adar yn ein hardal ni o dde Cymru, rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn gweithio gyda V2C er budd y mudwyr rhyfeddol yr haf hyn.’
Cynhaliwyd y prosiect o ganlyniad i aelodau lleol GBC fonitro poblogaeth gwenoliaid sy’n bridio yn ddiwyd yng nghymunedau Mynydd Cynffig, Y Pîl, a Gogledd Corneli dros y blynyddoedd diwethaf fel rhan o brosiect mapio gwenoliaid ar draws y Deyrnas Unedig gan RSPB.
‘Mae Cymoedd i’r Arfordir yn falch o gefnogi’r fenter hon fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi bioamrywiaeth a galluogi ein preswylwyr i brofi amrywiaeth o fywyd gwyllt ar eu stepen ddrws’, esboniodd Andy Jones, Arweinydd Tîm Tai Cymunedol Cymoedd i’r Arfordir.
‘Edrychwn ymlaen at weithio gyda GBC a Phartneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr ar brosiectau cadwraeth tebyg.’
Y daith hir
Mae gwenoliaid yn cyrraedd ddiwedd mis Ebrill neu’n gynnar ym mis Mai ac yn gadael ym mis Awst er mwyn cyrraedd eu tiroedd y gaeaf yn y Congo yn Affrica gan gwblhau taith gylchog o 14,000 o filltiroedd.
Mae’r wennol yn aderyn sy’n byw am gyfnod weddol hir gan ystyried ei maint. Mae ganddi rychwant oes cyfartalog o ryw 5 mlynedd ac nid yw’n cyrraedd oedran bridio nes iddi droi’n 3 neu’n 4 oed.
Mae gwenoliaid yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywyd yn hedfan gan lanio ar gyrraedd safle nyth yn unig.
Maent yn dychwelyd i’r un safle bridio bob blwyddyn ac maent yn ffyddlon i’w partneriaid.
‘Mae niferoedd gwenoliaid yn dirywio’n sylweddol…’
‘Mae niferoedd gwenoliaid yn dirywio’n sylweddol o ganlyniad i golli eu safleoedd nythu arferol’, meddai Jess Hartley, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr.
‘Rydyn ni’n falch iawn y gallwn ni gefnogi’r fenter hon yn ariannol er mwyn sicrhau y cafodd y blychau nythu eu gosod yn ddiogel gan wirfoddolwyr GBC gan ddefnyddio eu harbenigedd a’u gwybodaeth arbenigol’.
Mae prosiectau fel hyn yn hanfodol o ran cynnig safleoedd nythu newydd i’r aderyn eiconig hwn y mae ei bartïon ‘sgrechian’ wrth iddo hedfan yn gyflym dros y toeon yn sain arbennig o’r haf ac mae’n fraint ein bod ni’n gallu ei fwynhau yng Nghymru o hyd.
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS