Nid yn unig yw natur yn brydferth, ond mae hefyd yn sylfaenol i'n bywydau. Ni allwn oroesi hebddo, ond mae amgylchedd naturiol Cymru yn dirywio ac felly hefyd y manteision y mae'n eu sicrhau. Bydd prosiect Partneriaeth Natur Lleol Cymru yn adeiladu rhwydwaith adfer natur i helpu i wyrdroi hyn, gan ymgysylltu â phobl a chymunedau, busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau mewn camau ymarferol a chynlluniau strategol ar gyfer Cymru iach, wydn a chyfoethog o ran ei natur.