English

Polisi Cwcis

Beth yw cwci? Dafn o ddata sydd, yn aml, yn cynnwys dynodwr unigryw, ac sy’n cael ei anfon i borwr eich cyfrifiadur neu ffôn symudol (cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel “dyfais”) o gyfrifiadur gwefan ac yn cael ei storio ar yriant caled eich dyfais.


Gall pob gwefan anfon ei chwci ei hun i'ch porwr, os yw dewisiadau eich porwr yn caniatáu hynny, ond (er mwyn gwarchod eich preifatrwydd) yr unig gwcis y mae eich porwr yn caniatáu mynediad iddynt i'ch gwefan yw'r cwcis y mae'r porwr ei hun eisoes wedi'u hanfon i chi, nid y cwcis a anfonir i chi gan wefannau eraill. Mae llawer o wefannau'n gwneud hyn bob tro y mae defnyddiwr yn ymweld â'u gwefan er mwyn olrhain llif y traffig ar-lein.

Ar wefannau WCVA, mae cwcis yn cofnodi gwybodaeth am eich dewisiadau ar-lein. Mae defnyddwyr yn gallu gosod eu dyfeisiadau i dderbyn pob cwci, eu hysbysu pan fydd cwci yn cael ei anfon, neu i beidio â derbyn cwcis unrhyw bryd. Mae'r dewis olaf hwn yn golygu na ellir trosglwyddo rhai nodweddion penodol i'r defnyddwyr hwnnw ac, o'r herwydd, mae'n bosib na fyddant yn gallu manteisio'n llawn ar holl nodweddion y wefan honno. Mae pob porwr yn wahanol, felly astudiwch y ddewislen "Help" ar eich porwr i weld sut i newid eich dewisiadau cwci.
Wrth ymweld ag unrhyw un o wefannau WCVA, mae'r tudalennau a welwch, ynghyd â chwci, yn cael eu lawrlwytho i'ch dyfais. Mae llawer o wefannau'n gwneud hyn, gan fod cwcis yn galluogi cyhoeddwyr gwefannau i wneud pethau defnyddiol fel canfod a yw'r ddyfais (a'i ddefnyddiwr, mae'n debyg) wedi ymweld â'r wefan o'r blaen. Gwneir hyn ar ymweliad dilynol, drwy chwilio am, a chanfod, y cwci a adawyd yno ers yr ymweliad diwethaf.

Isod, ceir gwybodaeth ynglyn â pha gwcis y gellid eu hanfon atoch pan fyddwch yn ymweld â'r wefan /main/dsp_home.cfm?&lang=cy a sut i wrthod neu ddileu'r cwcis hynny.

Sut i reoli a dileu cwcis

Ni fydd WCVA yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi y gellid ei defnyddio i ddatgelu pwy ydych chi. Fodd bynnag, os ydych chi eisiau cyfyngu ar, neu atal, y cwcis y mae gwefannau WCVA yn eu hanfon atoch neu, yn wir, unrhyw wefannau eraill, gallwch wneud hynny drwy osodiadau eich porwr. Dylai'r swyddogaeth Help ar eich porwr ddangos sut i wneud hyn. Fel arall, gallwch ymweld â www.aboutcookies.org sy'n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr ynglyn â sut i wneud hyn ar amrywiaeth helaeth o borwyr. Cewch yno hefyd fanylion ynglyn â sut i ddileu cwcis oddi ar eich cyfrifiadur, yn ogystal â gwybodaeth fwy cyffredinol am cwcis. Os hoffech chi wybod sut i wneud hyn ar borwr eich ffôn symudol, dylech astudio llawlyfr eich ffôn.

Drwy gyfyngu ar gwcis, dylech sylweddoli y gallech effeithio ar swyddogaethau gwefan WCVA. Mae WCVA yn defnyddio llawer o gyflenwyr sydd hefyd yn gosod cwcis ar ein gwefannau, ar ein rhan, er mwyn darparu'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth ynglyn â'r cwcis y mae'r cyflenwyr hyn yn eu defnyddio, yn ogystal â gwybodaeth ynglyn â'u gwrthod, gweler adrannau 3 isod.

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS