English

Partneriaethau

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Perchnogion tir

Perchnogion tir

Ydych chi’n berchen ar dir neu’n rheoli tir ac eisiau cyngor ar sut i gyflwyno buddion i fyd natur? Gall ein cydlynwyr Partneriaeth Natur Leol ledled Cymru gynnig cyngor am ddim neu eich cyfeirio at fudiadau a allai eich helpu i gyflwyno cymaint â phosibl o fuddion i fyd natur ar eich tir.

grwpiau cymunedol

Grwpiau cymunedol

Mae grwpiau cymunedol wedi bod yn gweithredu dros fyd natur ers tro byd, a gallwn ni yn LNP Cymru helpu. Gall ein rhwydwaith o gydlynwyr natur gynnig cyngor am ddim i’ch grwp cymunedol ar ddatblygu eich prosiectau natur. Gallwn ni i gyd wneud ein rhan dros fyd natur yn y gymuned

Gyrff Cyhoeddus

Cyrff Cyhoeddus

Mae gan Gyrff Cyhoeddus rôl allweddol mewn cyfrannu at adferiad natur drwy wella’r fioamrywiaeth ar safleoedd sydd yn eu meddiant a dan eu dylanwad, drwy leihau allyriadau carbon neu wneud penderfyniadau caffael doethach.

Cynghorau Tref a Chymuned

Cynghorau Tref a Chymuned

Mae Cynghorau Tref a Chymuned yn darparu gwasanaeth hanfodol yn y gymuned ac yn cynnig potensial gwych i wella byd natur ar safleoedd y maen nhw’n berchen arnynt neu’n eu rheoli’n uniongyrchol. Gallwn ni weithio gyda chi i gyflawni’r buddion mwyaf posibl i fyd natur yn eich cymuned.

ELUSENNAU

Elusennau

Mae natur yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth sy’n cyflwyno llawer o fuddion i gymunedau a’r gymdeithas ehangach. Gall ein staff natur arbenigol ledled Cymru helpu eich elusen a’ch gwirfoddolwyr i ymhél â byd natur a gwella llesiant.

Cymdeithasau Tai

Cymdeithasau Tai

Mae Cymdeithasau Tai yn rheoli ac yn berchen ar fannau gwyrdd sylweddol eu maint a gall y rhain fod o fudd i denantiaid a bioamrywiaeth os cânt eu cynllunio, eu cyflenwi a’u rheoli’n gywir. Gall y cymorth am ddim a ddarperir gan ein rhwydwaith o gydlynwyr helpu i gyflwyno canlyniadau gwell i fyd natur ar eich safle.

busnesau

Busnesau

Mae busnesau ffyniannus yn dibynnu ar fyd natur ac mae iechyd byd natur dan bwysau sy’n effeithio ar dwf economaidd ac yn cyflwyno risg i fusnesau a defnyddwyr. Gall LNP Cymru gynnig cyngor am ddim ar wneud eich busnes yn ‘gyfeillgar i natur’.

ysgolion

Ysgolion

Mae dod i gysylltiad â natur a chael profiad yn y dosbarth awyr agored yn fuddiol tu hwnt i blant; mae’n gwella canlyniadau dysgu, yn magu eu hyder ac yn rhoi sgiliau cymdeithasol iddynt. Gall ein cydlynwyr natur roi cyngor cyffredinol a help i’ch ysgolion i gyflawni prosiectau natur gwell. Mae am ddim ac yn seiliedig ar wybodaeth leol sy’n gweddu i leoliad eich ysgol.

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS