Cwmni Buddiannau Cymunedol yw Coetiroedd Cymunedol Bryn Sirhywi a redir gan wirfoddolwyr. Maen nhw’n rheoli man gwyrdd ôl-ddiwydiannol 85 hectar ger Tredegar. Mae cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (LPfN) wedi helpu i adeiladu capasiti’r mudiad i allu adfer y cynefinoedd ar y safle ac yn y dirwedd ehangach drwy ddarparu cyfarpar a hyfforddiant, a chyllido gwaith ymarferol ar y safle.
Coetir hynafol gydag ychydig o laswelltir a pherllannau oedd y safle’n wreiddiol, ond yn anffodus, cafodd ei esgeuluso. Mae’r safle’n serth iawn mewn mannau ac yn dueddol o fynd yn ddwrlawn, ac roedd hyn yn heriol. Gwnaeth cyllid yr LPfN ganiatáu i’r grŵp dalu am gyfarpar coedwigaeth, gan gynnwys tractor mynydd, a hyfforddiant ar reoli’r coetir. Maen nhw hefyd wedi gallu adfer glaswelltiroedd drwy leihau’r prysgwydd. Cafodd gwelliannau eu gwneud i’r cynefin yn ystod y gaeaf. Mae hyn wedi agor llennyrch a chael gwared â rhywogaethau estron goresgynnol er mwyn galluogi mwy o rywogaethau amrywiol i sefydlu eu hunain, a galluogi’r ecosystem i ddod yn fwy gwydn.
Trwy’r prosiect hwn, mae’r grŵp wedi dysgu’r technegau cywir i reoli’r tir a chaniatáu iddo gael ei gynnal a chadw gan wirfoddolwyr dros yr hirdymor. Cafodd y prosiect ei hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol, a gwahoddwyd grwpiau lleol i ymweld â’r lle a helpu i gynnal a chadw’r cynefin. Mae hyn wedi cynyddu’r mynediad at natur i’r gymuned amgylchynol, a chaiff y goedwig ei ddefnyddio’n rheolaidd nawr gan gerddwyr.
Dywedodd Susy Arnold, cyfarwyddwr Coetiroedd Bryn Sirhywi: “Mae’r cyllid a’r gefnogaeth rydyn ni wedi’u cael i brynu cyfarpar coedwigaeth a hyfforddiant wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i ni ac i’n capasiti i reoli ac adfer ein coetiroedd cymunedol yn well”.
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS