English

Gwelliannau Coetir Cymunedol Coed Cors y Gedol

LNP Parc Genedlaethol Eryri

Fforestydd Glaw Cymru

Mae coetiroedd derwen mes di-goes de Eryri, gan gynnwys Coed Cors y Gedol, yn ffurfio un o’r ardaloedd cadwraeth coetiroedd pwysicaf yn Ewrop.

Mae Coed Cors y Gedol yn SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) oherwydd ei fod yn esiampl dda o goetir derw sy’n caniatáu i ystod eang o blanhigion brodorol dyfu ar ei bridd niwtral.

Caiff y math hwn o goetir Iwerydd ei ddisgrifio’n aml fel “coedwig law dymherus” o ganlyniad i’r hinsawdd laith a chlòs arferol a’r doreth gysylltiedig o redyn, cennau a’r tyfiant toreithiog o fwsogl a llysiau’r afu. Mae Coed Cors y Gedol o bwysigrwydd Ewropeaidd yn ogystal, ac o’r herwydd yn ffurfio rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Coedydd Derw Meirionnydd.

Rhoi hwb i fioamrywiaeth

Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae’r coetir wedi’i gategoreiddio â statws cadwraeth anffafriol gan nad yw’n elwa o reolaeth weithredol a chan fod coed ffawydd a choed eraill anfrodorol yno. Yn y darn o goetir y mae Partneriaeth Natur Lleol Eryri’n gweithio arno, bydd 800 o goed brodorol, megis derw a chyll, yn cael eu plannu yn lle’r coed ffawydd anfrodorol gan ddefnyddio gwirfoddolwyr o Grŵp Coetir Cymunedol Ardudwy, ac felly ei ddychwelyd i statws ffafriol ac ehangu ar yr amgylchedd naturiol bioamrywiol.

Yn ogystal, bydd 500 metr o lwybrau’n cael eu hychwanegu er mwyn osgoi erydiad pellach i galon y coetir tra’n caniatáu mynediad i gymuned leol Talybont a ward ehangach Dyffryn Ardudwy. Mae cysylltu’r cymunedau lleol â byd natur yn rhan o symudiad mwy tuag at sefydlu rhwydwaith ehangach o brescripsiynu gwyrdd yn yr ardal.

Mae’r gwaith yn ymdrech ar y cyd rhwng aelodau LNP Parc Cenedlaethol Eryri Baileys & Partners (perchenogion tir a syrfëwyr lleol), Coed Cadw, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE a Grŵp Coetiroedd Cymunedol Ardudwy.

Rhan o'r llwybr troed trwy goetir Cors y Gedol a fydd yn cael ei wella ar gyfer mynediad a charthu'r afon er mwyn osgoi llifogydd ac osgoi erydiad pellach i'r tir cyfagos

Rhan o'r llwybr troed trwy goetir Cors y Gedol a fydd yn cael ei wella ar gyfer mynediad a charthu'r afon er mwyn osgoi llifogydd ac osgoi erydiad pellach i'r tir cyfagos

Ardal yng Nghoetir Cors y Gedol lle bydd coed brodorol fel Derw a Chyll yn cael eu plannu i adfer y cynefin yn ôl i gyflwr ffafriol

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS