Yn ddiweddar aeth amrywiol leoliadau ar draws Abertawe ati i newid eu rhaglenni rheoli er mwyn mynd i’r afael â’r doreth o redyn sy’n tyfu yno.
Llawredynen fawr sy’n ffafrio pridd sych, asidig ac sy’n lledaenu trwy wreiddgyffion dan ddaear yw rhedyn. Gall drechu rhywogaethau eraill, gan greu amgylchedd prin ei rywogaethau sydd mewn perygl o fynd ar dân yn ystod misoedd poeth.
Yn hytrach na defnyddio cemegion caled i reoli’r rhedyn, mae Cyngor Abertawe a’u Partneriaeth Natur Lleol (LNP), gyda chefnogaeth y perchenogion tir, grwpiau cymunedol, y gwasanaeth tân a Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi bod yn defnyddio rholiwr gwasgu rhedyn wedi’i dynnu naill ai gan dractor, beic cwad neu 4x4.
Mantais gwasgu rhedyn â rholiwr yw bod y coesyn yn parhau’n gyfan ond ei fod wedi’i gleisio mewn sawl man. Golyga hyn fod y gwreiddgyff, yn hytrach nag anfon blaguryn newydd i fyny yn unig (sy’n digwydd os yw’r rhedyn yn cael ei dorri), yn defnyddio’i holl egni wrth geisio atgyweirio’r coesyn sydd wedi’i gleisio. Dros amser mae hyn yn blino’r gwreiddgyff ond bob blwyddyn mae’r coesyn yn mynd yn llai, yn wannach, ac yn fwy gwasgaredig.
O ganlyniad, ceir mwy o gysylltiad â goleuni a lleihad yn yr haenen domwellt o redyn marw blynyddol, sydd felly’n lleihau cystadleuaeth ac yn galluogi’r cynefin a rhywogaethau eraill i adfer. Ym Mharc Gwledig Dyffryn Clun, mae rheoli rhedyn wedi galluogi clychau’r gog i ymestyn yn helaeth eu cynefin, eu trwch a’u tyfiant, gan greu arddangosfa fendigedig.
Yn rhai o’r lleoliadau, ceir risg uchel o dân. Mae Gwarchodfa Natur Leol (GNL) Clogwyni Pwll Du, sydd ar lwybr arfordir Cymru ac sy’n darparu mynediad i arfordir AHNE Gŵyr, yn un o’r lleoliadau hynny. Ceir yno doreth o eithin fflamadwy a phridd calchfaen tenau sy’n hawdd ei niweidio a olyga bod y banc hadau/bylbiau yn arbennig o agored i gael ei niweidio gan dân. Fodd bynnag, trwy reoli’r rhedyn mae’r perygl o dân yn lleihau ac mae modd wedyn i flodau calchfaen megis y gwiberlys dyfu ac elwa.
Mae defnyddio’r rholiwr mewn lleoliadau ar draws Abertawe wedi bod yn fodd gwych o arddangos rheolaeth safle cadarnhaol. Tra bod gan y blodau gwyllt ychwanegol apêl weledol, mae rheoli’r rhedyn yn dod â buddion niferus eraill, megis creu gwagle agored ychwanegol ar gyfer pori, gwella mynediad ar lwybrau a rheoli’r tir drwyddo draw er budd bywyd gwyllt.
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS