English

Dechreuwch recordio

Dywedwch wrthym ni’r hyn yr ydych chi’n ei weld a ble. Byddem ni’n dwli clywed gennych chi

Tagiwch @LNPCymru ar Trydar ac ymunwch â'r sgwrs ar fioamrywiaeth ac adferiad byd natur yng Nghymru. Byddem hefyd wrth ein bodd yn gweld eich lluniau o'r bywyd gwyllt a'r tirweddau rydych chi'n ddigon ffodus i'w mwynhau yma yng Nghymru.

Gallwch hefyd gymryd rhan mewn cofnodi bywyd gwyllt gan ddefnyddio Ap LERC Cymru neu, os ydych yn gofnodwr sefydledig, ddefnyddio MapMate, iRecord neu system ar-lein eich Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol (LERC).

Trwy gofnodi eich bywyd gwyllt lleol a'r rhywogaethau rydych yn eu gweld a'u hychwanegu at fasdata LERC, rydych yn darparu gwyddonwyr â gwybodaeth bioamrywiaeth newydd bwysig sy'n cyfrannu tuag at gadwraeth, cynllunio, ymchwil ac addysg byd natur. Ceir mwy o wybodaeth ynglŷn â'r Canolfannau Cofnodi Amgylcheddol Lleol yma.

2025 LNP Cymruwebsite by WiSS