Mae prosiect peilot ar Ynys Môn wedi defnyddio cyllid gan y Cynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol i astudio arferion adar mewn perygl a datblygu bioblastig newydd wedi’i wneud o wymon.
Mae’r Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn cyllido prosiectau lleol mewn ardaloedd arfordirol yng Nghymru ac yn dwyn partneriaid ynghyd i drechu’r argyfwng hinsawdd.
Ar ddechrau 2023, cafodd 14 o brosiectau peilot eu cyllido i brofi beth allai buddsoddi yn y maes hwn ei gyflawni. Cafodd un prosiect o’r fath ei ddatblygu gan Bartneriaeth Natur Leol (LNP) Ynys Môn, a oedd eisiau edrych ar ddatrysiadau newydd ar gyfer gwella bioamrywiaeth yr ardal.
ASTUDIO ADAR YN YR ARDAL
Trwy weithio gydag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (gwefan Saesneg), creodd LNP Ynys Môn adnoddau ar-lein newydd i gasglu data ar sut mae adar yn defnyddio ardaloedd arfordirol. Bydd y data yn caniatáu i gymunedau a llunwyr polisi ddatblygu’r cynlluniau mwyaf effeithiol i warchod adar mewn perygl a diogelu eu cynefinoedd. Gellir hefyd defnyddio’r adnoddau i fodelu sut bydd gwahanol fathau o gamau gweithredu yn effeithio ar boblogaethau o adar penodol, drwy olrhain eu symudiadau.
DATBLYGU DATRYSIADAU ECO-GYFEILLGAR
Gwnaeth y prosiect hefyd alluogi gwaith gyda PlantSea (Gwefan Saesneg), busnes biodechnoleg newydd ar Ynys Môn, i greu bioblastig newydd o wymon y gellir ei ddefnyddio i wneud blychau heb blastig. Mae gan y deunydd newydd hwn lawer o elfennau cyffrous: mae’n defnyddio adnodd adnewyddadwy, yn creu ychydig iawn o wastraff, os o gwbl, yn bioddiraddio, ac yn stopio mwy o blastig rhag cyrraedd ein moroedd.
Y CYNLLUN ADEILADU CAPASITI MEWN CYMUNEDAU ARFORDIROL
Bydd y Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn galluogi cymunedau i weithredu mewn ardaloedd arfordirol yng Nghymru i gefnogi’r gwaith o adfer natur a sicrhau ei chynaladwyedd. Dosberthir y cyllid drwy’r Partneriaethau Natur Lleol (LNPs) a bydd prosiectau yn cael eu rhedeg mewn partneriaeth â’r Cydlynydd LNP lleol.
Nod y Gronfa yw adeiladu capasiti partneriaid cymunedol a’u helpu i gyflawni camau gweithredu cynaliadwy sy’n cefnogi twf ac adferiad ardaloedd morol ac arfordirol lleol. Bydd yn annog cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid, fel cymunedau, busnesau, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, ac yn adeiladu rhwydweithiau sy’n meithrin adferiad ac adfywiad mewn ardaloedd arfordirol.
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS