English

Gwarchod gloÿnnod byw Britheg y gors
ym Mhartneriaeth Natur Leol Dyffryn Aman

LNP Carmarthenshire

Darllenwch am y gwaith sydd ar droed i adfer glaswelltir corsiog yn Nyffryn Aman er mwyn gwarchod gloÿnnod byw Britheg y gors.

Gobaith i Loÿnnod Byd Britheg y gors
Mae Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin yn fan pwysig i loÿnnod byw Britheg y gors (Euphydryas aurinia) yn ogystal â fflora a ffawna gwlypdir cysylltiedig eraill. Mae’r glöyn byw wedi dirywio’n ddramatig yn y DU, a llawer o ardaloedd lleol yng Nghymru wedi’u colli’n gyfan gwbl.

Er bod maint y cynefin glaswelltir corsiog yn Nyffryn Aman wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, awgryma’r dystiolaeth ei bod yn debygol bod ei ansawdd a’i allu i gefnogi Britheg y gors wedi dirywio.

Ers 2018, mae’r Fenter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru (INCC) wedi bod yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol a thirfeddianwyr yn Nyffryn Aman fel rhan o’i hymdrechion i warchod rhywogaethau a chynefinoedd ar raddfa’r dirwedd.

Roedd hwn yn gyfle gwych i fentrau gwarchod Britheg y gors yn yr ardal i weithio gyda thirfeddianwyr i adfer cynefinoedd glaswelltir corsiog a chodi ymwybyddiaeth o’r rhywogaeth yn lleol.

Cydweithio
Nod cyffredinol y prosiect oedd adeiladu ar y gydberthynas weithio dda â thirfeddianwyr yn Nyffryn Aman er mwyn adfer glaswelltir corsiog ar raddfa’r dirwedd.

Wedi i laswelltir corsiog priodol yn yr ardal gael ei nodi a’i fapio, gwnaeth cyllid gan brosiect LNP Cymru, trwy Bartneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin, alluogi’r prosiect i weithio gyda thirfeddianwyr lleol â chynefinoedd addas.

Gwnaeth y cyllid hefyd alluogi asesiad safle o’r tir a chynlluniau ar gyfer adfer glaswelltir corsiog i gael eu datblygu. Roedd y cynlluniau’n canolbwyntio ar Fritheg y gors, ond roeddent hefyd yn awyddus i gydnabod cyfyngiadau a phryderon tirfeddianwyr unigol.

Yn ogystal â chynllun adfer pwrpasol, gwnaeth y cyllid hefyd alluogi’r prosiect i lunio canllawiau adfer cynefin cyffredinol ar gyfer Britheg y gors, a gafodd eu cyflwyno i nifer o dirfeddianwyr eraill yn y dyffryn a thu hwnt.

O’r 15 o dirfeddianwyr y cysylltwyd â nhw, gwnaeth 10 gofrestru ar gyfer y cynllun adfer cynefin a lluniwyd 5 cynllun cynefin pwrpasol.

Edrych Ymlaen
Mae’r prosiect wedi galluogi INCC i godi ymwybyddiaeth o warchod Britheg y gors ac adfer cynefinoedd yn Nyffryn Aman ac i amlygu pwysigrwydd y gymuned a thirfeddianwyr lleol i warchod natur.

Trwy bresenoldeb parhaus yn Nyffryn Aman, gall INCC weithio bellach gyda’r tirfeddianwyr sy’n gysylltiedig â’r prosiect (ac eraill) i roi’r argymhellion a gyflwynwyd mewn cynlluniau pwrpasol ar waith er mwyn sicrhau y gellir adfer mwy o gynefinoedd glaswelltog corsiog.

Mae’r prosiect hefyd wedi arwain INCC i adeiladu platfform mwy o faint yn Nyffryn Amman fel bod yr elusen yn gallu ehangu ei gweithgareddau gwarchod i gynnwys mwy o rywogaethau a chynefinoedd.

I gael eich diweddaru ar waith INCC, ewch i’w gwefan (Saesneg yn unig) neu dilynwch nhw ar Twitter.

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS