Bob blwyddyn bydd nifer o’r Partneriaethau Natur Lleol sy’n rhan o brosiect LNP Cymru yn dosrannu cyllid grant i fudiadau a chymunedau eraill sy’n gweithredu prosiectau er mwyn gwella cydnerthedd ecosystemau yn eu hardal.
Ym mis Mawrth 2020, defnyddiodd LNP Sir Benfro y cynllun grant hwn er mwyn cydlynu’r broses o blannu 1,300 o goed ar dir oedd yn eiddo i Gyngor Sir Penfro (CSP) ger Casblaidd.
Cefnogwyd LNP Sir Benfro gan yr elusen genedlaethol Tir Coed ac fe gydweithion nhw gyda gwirfoddolwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP), staff Bwrdd Iechyd GIG Hywel Dda, Cyngor Sir Penfro (CSP) a busnes fferm lleol (Pembrokeshire Lamb).
Gan bobl Sir Benfro, i bobl Sir Benfro
Daeth y prosiect hwn i fodolaeth wedi i fydwraig leol gael ei hysbrydoli gan y cynllun Plant!, lle caiff coeden ei phlannu am bob plentyn sy’n cael ei eni yng Nghymru. Cysylltodd y fydwraig ag LNP Sir Benfro, gan awgrymu y dylai’r cynllun hwn gael ei weithredu yn Sir Benfro.
O ganlyniad, plannwyd 1,300 o goed er mwyn adlewyrchu’r nifer o fabanod a gafodd eu geni yn Sir Benfro bob blwyddyn. Y bwriad yw plannu nifer tebyg o goed bob blwyddyn o hyn ymlaen, fel bod coetir ffyniannus yn cael ei chreu, wedi’i phlannu gan bobl Sir Benfro i bobl Sir Benfro.
Trwy weithio gyda’r Bwrdd Iechyd a’r uned bydwreigiaeth yn Ysbyty Llwynhelyg, bu’r prosiect hefyd yn gatalydd ar gyfer newid pellach. Bydd y coetir yn cael ei hyrwyddo fel man i rieni newydd a theuluoedd ymweld ag ef a bydd staff y GIG yn ymgysylltu â rhieni newydd mewn trafodaethau ynglŷn â rhianta cynaliadwy, gan eu hannog i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch magwraeth eu plant tra’n ystyried yr amgylchedd.
Cysylltedd ac Atal Llifogydd
Bu’r prosiect nid yn unig yn wych ar gyfer pobl Sir Benfro, ond hefyd ar gyfer bioamrywiaeth. Fel dywed Ant Rogers, Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth LNP Sir Benfro, “Mae’r coetir newydd yn bwysig i fioamrywiaeth gan y bydd yn uno dau floc o goetir ac felly’n darparu cysylltedd hollbwysig i rywogaethau coetir.
“Bydd adar, ystlumod, mamaliaid eraill, infertebratau, planhigion a ffyngau yn elwa o’r cynnydd ym maint, cysylltedd ac amrywiaeth y coetir.
“Yn ogystal, mae’r coetir wedi’i phlannu ger Ardal Cadwraeth Arbennig yr Afon Cleddau. Mae’r ardal hon yn dueddol o brofi llifogydd, felly bydd y coed sydd newydd eu plannu yn atal llif dŵr dros y tir yn ystod glaw trwm ac yn cynyddu ymdreiddiad. Bydd yn helpu i atal llifogydd yn y dyfodol ac yn lleihau colled pridd, ac felly’n amddiffyn cyfoeth y pridd ac ansawdd y dŵr.”
O ganlyniad i bandemig Covid 19, bu rhaid lleihau ar y digwyddiad plannu coed a’i gyfyngu i grŵp llai o bobl oedd yn cadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, cafodd y coed eu plannu’n llwyddiannus cyn i’r cyfyngiadau symud ddod i rym.
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS