English

Dewch i gwrdd â’r tîm

Ceir LNP ym mhob ardal ledled Cymru, pob un wedi'i leoli'n unigryw er mwyn darparu gweithredu effeithlon ar lefel leol a chyfrannu tuag at yr agenda adfywio byd natur cenedlaethol. Dewch o hyd i'ch Partneriaeth Natur Lleol yma.

Mae gan bob LNP gydlynydd sy'n lletya gyda'r Awdurdod Lleol neu'r Awdurodod Parc Cenedlaethol yn eu hardal. Mae pob un yn gyfrifol am ddatblygu a darparu gweithgareddau, yn ogystal â monitro a pherfformiad.

Os oes gennych ymholiadau cyffredinol ynglŷn â'r prosiect cysylltwch â ni fan hyn, os gwelwch yn dda.

Chris Lazo - LNP Cymru Project Manager, WCVA

Chris Lazo

Rheolwr Prosiect Partneriaethau Natur Lleol (LNP) Cymru, CGGC
Mae Chris wedi bod yn rheoli'r prosiect ers dechrau 2020. Prif ddyletwyddau ei rôl yw sicrhau bod y prosiect fel cyfanwaith yn cyflawni ei amcanion ac yn parhau ar y trywydd cywir. Mae'n goruchwylio'r Grŵp Cynghori a'r Bwrdd Prosiect, ac yn adodd i'n cyllidwyr yn Llywodraeth Cymru.


Vicky Marriott

Vicky Marriott

Swyddog Cymorth | Partneriaethau Natur Lleol Cymru, CGGC
Mae Vicky yn gweithio ym maes cyllid grant ers 2007, ac ymunodd â thîm Partneriaethau Natur Lleol yn gynnar yn 2023. Mae hi’n cefnogi’r Partneriaethau Natur Lleol ledled Cymru i gyflwyno eu cynlluniau prosiect, prosesu eu hawliadau ariannol, monitro ac adrodd ar eu hallbynnau, a llawer o bethau eraill. Mae hi wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru, ac yn ei hamser hamdden mae hi’n mynd â’r ci annwyl am dro, ac yn dadlau gyda’i phlant sydd yn eu harddegau.

Debbie Wilkins

Debbie Wilkins

Swyddog Cymorth | Partneriaethau Natur Lleol Cymru, CGGC
Mae gan Debbie bron i 10 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cyllid grant, ac ymunodd â thîm Partneriaethau Natur Lleol yn ystod haf 2023. Mae hi’n cefnogi’r Partneriaethau Natur Lleol ledled Cymru, gan weithio’n agos gyda Vicky. Mae hi wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru, ac yn ei hamser hamdden mae hi’n mwynhau tyfu llysiau a mynd â'i chŵn am dro. Mae hi hefyd yn ymddiriedolwr ac yn drysorydd elusen yng ngogledd Cymru.

Sean McHugh

Sean McHugh

Tîm Cefnogi Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru
Mae Sean wedi bod ynghlwm â phrosiect LNP Cymru ers iddo gychwyn cael ei ddatblygu a gweithiodd yn galed i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cam Cyflawni. Ef yw'r arweinydd strategol ar gyfer holl weithgareddau'r prosiect ac mae'n darparu cyswllt glir â pholisïau perthnasol gan gynnwys Cynllun Adfer Natur Cymru (NRAP) a Deddf yr Amgylchedd a'i offerynnau.

Emma Manderson

Emma Manderson

Swyddog | Partneriaethau Natur Lleol Cymru, CGGC
Mae Emma yn gweithio ym maes cyllid grant ers 2016, ac ymunodd â thîm Partneriaethau Natur Lleol yn ystod haf 2023. Mae hi’n gweithio gyda’r Partneriaethau Natur Lleol ledled Cymru, gan eu cefnogi wrth iddynt gyflawni eu cynlluniau, sicrhau eu bod yn cyflawni eu hamcanion, eu cynghori os bydd angen iddynt wneud unrhyw newidiadau, yn ogystal â hyrwyddo eu gwaith. Mae hi wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, ac yn ei hamser hamdden mae hi’n mwynhau gemau bwrdd a chanu mewn côr.

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS