English

Grŵp Gweithredu Cymunedol dros Natur

Partneriaeth Natur Lleol (LNP) Rhondda Cynon Taf

Grŵp Gweithredu Cymunedol dros Natur Rhondda Cynon Taf

Yn dal ati bron flwyddyn yn ddiweddarach, mae grŵp Gweithredu Cymunedol dros Natur Rhondda Cynon Taf (RCT) wedi cynnig gweithdai, hyfforddiant a digwyddiadau ar-lein i grwpiau cymunedol, amgylcheddwyr ac actifyddion brwdfrydig Rhondda, gan annog mwy o bobl i wneud rhywbeth dros fyd natur.

Gwnaeth Rose Revera, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol (LNP) Rhondda Cynon Taf, adnabod yr angen am ffordd i unigolion ymrwymedig gymryd rhan yn y gwaith o adfer natur heb orfod mynychu’r cyfarfodydd partneriaeth, sy’n aml yn dechnegol iawn.

‘Yn dilyn y cyfnodau clo, pan oedd mwy o gyfyngiadau yn cadw pobl gartref ac yn eu helpu i gysylltu mwy â’u hamgylchedd lleol, gwelsom ymchwydd yn nifer y bobl a oedd eisiau helpu byd natur a gwneud gwahaniaeth i ddyfodol bywyd gwyllt yn eu cymunedau lleol’ meddai Rose.

‘Gwnaethom ni ddechrau’r gweithdai “Gweithredu Cymunedol dros Natur” yn RCT gyda’r nod o gynnig syniadau ac ysbrydoliaeth am gamau y gallai pobl eu cymryd yn lleol dros fyd natur, fel arolygon, rheoli cynefinoedd a chreu cynefinoedd.’

Dechreuodd y gweithdy cyntaf a gynhaliwyd ar-lein ym mis Mawrth 2021 drwy amlinellu pam roedden nhw i gyd yno: i warchod natur.

Gwnaeth Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 (Saesneg yn unig), ddangos bod 8% o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru. Flwyddyn ar ôl hyn, fe ddaeth y pandemig, gan arwain at fisoedd o gyfnodau clo a chyfyngiadau. Roedd llawer yn teimlo bod byd natur yn ceisio dweud rhywbeth wrthym, ac fe wrandawodd y grŵp hwn.

‘Rydyn ni’n cwrdd bob tri mis i gael trafodaethau, cyflwyniadau gan aelodau o LNP RCT ac i rannu syniadau’ meddai Rose. ‘Hyd yn hyn, mae’r rhain wedi cynnwys pynciau fel “Cyfrif Gloÿnnod Byw Mawr”, rheoli glaswelltir blodau gwyllt a helfa gnau’r pathew.’

‘Rydyn ni hefyd yn siarad am faterion allweddol fel 'Y Goeden Iawn yn y Lle Iawn’ a bomiau hadau bywyd gwyllt, er mwyn gwneud yn siŵr bod grwpiau’n cymryd y camau mwyaf effeithiol dros natur heb achosi difrod damweiniol.’

‘Ysbrydoliaeth a gweledigaeth’

Mae Helen o Grŵp Amgylchedd Pont-y-clun yn aelod allweddol o’r grŵp. ‘Fel grŵp llawr gwlad, rydyn ni’n gwerthfawrogi’r cyfle i ymuno â gweithdai Gweithredu Cymunedol dros Natur am ddau brif reswm: y cyntaf yw’r cyfle i ddysgu o bobl â mwy o arbenigedd na ni a chael ein rhoi ar ben ffordd ar faterion reit gymhleth a dweud y gwir, fel plannu coed.

‘Yr ail yw cwrdd â phobl yn yr ardal sydd hefyd yn gweithredu ar bynciau sy’n ymwneud â byd natur a rhannu arferion - beth sydd wedi gweithio’n dda neu fel arall! Mae hyn yn ein cadw ni’n frwdfrydig ar gyfer prosiectau a syniadau newydd.

‘Mae bron pob un o’n haelodau ni’n gweithio’n amser llawn, felly mae elfen o ysbrydoliaeth a gweledigaeth yn bwysig i’w hannog i roi eu hamser rhydd i weithgareddau gwirfoddol drwy Grŵp Amgylchedd Pont-y-clun'

Gweithredu dros fyd natur

Cynhaliwyd y gweithdy diweddaraf (Saesneg yn unig) ar 30 Tachwedd 2021, lle y trafododd y grŵp y ddau fis nesaf o weithgareddau y byddan nhw’n cymryd rhan ynddyn nhw:

Chwefror:

  • Trefnwch batrôl llyffantod ar hyd ffyrdd y mae llyffantod yn hoffi teithio arnynt i’w hatal rhag cael eu bwrw gan geir neu gwympo i mewn i ffosdyllau wrth ymfudo i lynnoedd
  • Dewch o hyd i ychydig o haul y gaeaf gyda golygfa odidog o’ch blaen a chymryd rhan yng nghyfrifiad Gwylio Adar Ffermdir (4-20 Chwefror)
  • Glanhewch eich bocsys nythu yn ystod yr Wythnos Bocsys Nythu Genedlaethol, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod mewn cyflwr da ar gyfer adar nythu’r flwyddyn hon

Mawrth:

  • Myfyriwch ar y rhywogaethau blaenoriaeth uchel yn eich ardal a’r hyn y gallwch chi ei wneud i’w helpu nhw yn ystod Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd eleni (3 Mawrth), gan ddilyn y thema am eleni, “Adfer Rhywogaethau Allweddol er mwyn Adfer yr Ecosystem”
  • Ewch i lawr i’r afon i edrych am arwyddion o ddyfrgwn, a oedd bron diflannu ar un adeg ond sydd bellach ym mhob afon yng Nghymru
  • Ewch â’ch sgiliau adnabod coed gam ymhellach drwy eu hadnabod o’u blagur newydd ffres yn y gwanwyn

Prosiect Adfer Mawndiroedd

Y Prosiect Adfer Mawndiroedd

Yn y gweithdy diweddaraf, cafwyd hefyd gyflwyniad gan y Prosiect Adfer Mawndiroedd, lle y dysgodd y grŵp am bwysigrwydd mawndiroedd cyflwr da i ddal carbon, lleihau perygl llifogydd, gwella ansawdd dŵr a chefnogi bioamrywiaeth.

Bydd amrediad enfawr o gyfleoedd gwirfoddoli drwy’r prosiect a gallwch chi gael rhagor o wybodaeth yma.

Cymryd rhan

Bydd gweithdy nesaf Gweithredu Cymunedol dros Natur RCT yn cael ei gynnal ar 2 Mawrth 2022 a gallwch chi fynegi eich diddordeb yma.

‘Rydyn ni’n credu bod y gweithdai hyn yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth o’r camau gweithredu sydd wedi’u hamlinellu fel blaenoriaethau ar gyfer RCT drwy ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur – Gweithredu dros Natur’ meddai Rose. ‘Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y grŵp brwdfrydig hwn o bobl yn tyfu dros y blynyddoedd nesaf.’

Mae grŵp tebyg hefyd wedi dechrau nawr yng Nghastell-nedd Porth Talbot a chynhaliwyd y gweithdy cyntaf ddydd Mawrth 18 Ionawr. Rhagor o wybodaeth yma (Saesneg yn unig).

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS