English

Prosiect Creu Coetir Llanidloes

LNP Powys

Un o brif fanteision prosiect Partneriaethau Natur Lleol (LNP) Cymru yw’r modd y mae gweithio ar y cyd yn gwneud pethau na fyddai efallai’n bosibl fel arall yn bosibl. Enghraifft berffaith o hyn yw prosiect Creu Coetir Llanidloes, a gydlynir gan LNP Powys mewn cydweithrediad â Llanidloes Energy Solutions.

Nod y prosiect oedd adfer a chreu coetir brodorol o gwmpas Llanidloes, a thrwy wneud hynny fynd i’r afael yn ogystal â’r newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae coed a gwrychoedd yn chwarae rôl bwysig mewn bioamrywiaeth, yn enwedig trwy gysylltu cynefinoedd. Mae cysylltedd rhwng cynefinoedd yn hwyluso ymfudiad a gwasgariad rhywogaethau anifeiliaid brodorol. Yn ogystal, trwy blannu cymysgedd o rywogaethau coed llydanddail brodorol, caiff cydnerthedd ecosystemau eu cynnal a’u cyfoethogi.

Trwy gyfrwng y prosiect hwn, cafodd 5,000 o goed llydanddail brodorol eu rhoi gan Coed Cadw ac aeth 32 o berchenogion tir ati i blannu tua 6,500 o goed ar 42 safle ledled Llanidloes a’r ardal wledig gyfagos. Targedwyd y plannu’n bennaf yng nghorneli ac ymylon caeau er mwyn gwneud ardaloedd coediog a fodolai eisoes yn fwy ac ehangu ar gysylltedd. Cafodd perllan gymunedol ei chreu yn y dref hefyd.

Gweithio mewn partneriaeth
Prosiect wedi’i arwain a’i reoli’n llwyr gan wirfoddolwyr oedd hwn. Darparodd Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn gyngor a chefnogaeth o ran lleoliadau plannu. Cafodd y rhan fwyaf o’r coed eu rhoi gan Coed Cadw a byddant yn parhau i ddilyn cynnydd y prosiect fel cynllun peilot i’w fabwysiadu, o bosibl, mewn ardaloedd eraill.Cafodd tir a deunydd ffensio eu rhoi gan Gyngor Tref Llanidloes er mwyn creu perllan gymunedol, a rhoddwyd 20 o goed ffrwythau gan gyflenwr lleol. Roedd yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd leol ynghlwm â’r prosiect. Aeth perchenogion tir eraill ati eu hunain i blannu coed ac, mewn sawl achos, i godi ffensys (gan dalu o’u pocedi eu hunain) er mwyn helpu i sefydlu’r prosiect.

Darparodd LNP Powys offer er mwyn cynorthwyo gyda phlannu a rheoli’r prosiect yn barhaus, yn enwedig y coed ffrwythau yn y berllan gymunedol. Prynodd perchenogion tir 1,450 o goed derw ychwanegol o feithrinfa yng Nghymru ar ostyngiad o 50% i arbed eu compostio.

Mae’r prosiect hwn yn esiampl wych o weithio ar y cyd na fyddai wedi bod yn bosibl oni bai am ymrwymiad a gwaith rheoli preswylwyr, grwpiau cymunedol, ysgolion, perchenogion tir a chyrff anllywodraethol!

Prosiect Creu Coetir Llanidloes

Prosiect Creu Coetir Llanidloes

Prosiect Creu Coetir Llanidloes

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS