Mae Partneriaeth Natur Leol Bannau Brycheiniog mewn lleoliad anghyffredin gan eu bod o fewn y parc cenedlaethol gyda mynediad at gryn dipyn o natur. Mae hyn yn caniatáu iddynt ganolbwyntio ar helpu’r dirwedd naturiol i fod yn fwy bioamrywiol a gwydn fyth.
Gyda’u cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (LPfN), eu nod oedd cyfoethogi’r glaswelltir ar draws y parc gyda blodau gwyllt brodorol. Eu blaenoriaeth gyntaf oedd darganfod pa weithgareddau oedd eisoes yn cael eu gwneud o fewn yr ardal o ran cynaeafu hadau. Gwnaethant gomisiynu ymgynghorydd i gynnal astudiaeth o’r sefyllfa bresennol. Aethant ati i ddatblygu rhwydwaith er mwyn ennyn cefnogaeth cymaint â phosibl o gymunedau a thirfeddianwyr lleol; byddai hyn yn caniatáu mwy o rannu a mwy o hadau blodau gwyllt lleol yn cael eu defnyddio ar hyd a lled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Yn eu cam peilot, cynaeafwyd hadau o chwe lleoliad ar draws y Bannau, a chafodd y rhain eu plannu mewn 18 o leoliadau, gan gynnwys ymylon ffordd Canolfan Ymwelwyr Garwnant, ymylon coetiroedd, yr ardd bywyd gwyllt yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r gweirgloddiau hynny heb lawer o rywogaethau. Gwnaeth y camau cychwynnol hyn roi mewnwelediad ymarferol i’r LNP o’r gofynion a’r heriau y byddent yn eu hwynebu wrth ddatblygu’r gweithrediadau. Bu llawer o wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ynghlwm â’r gwaith o gasglu, didoli a phrosesu’r hadau, gan gynnwys pobl ifanc, grŵp LHDT+, a hyd yn oed grŵp o ddefaid. Gwnaeth y ddau grŵp cyntaf fwynhau dysgu am bwysigrwydd defnyddio hadau brodorol lleol a gwnaeth y trydydd fwynhau bwyta’r hadau i’w gwasgaru ar draws y cae yn ddiweddarach.
Daeth grwpiau cymunedol i lansiad Adroddiad Dichonoldeb y prosiect i ddysgu am sut gallant gymryd rhan yn y prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen. Daeth nifer o Bartneriaethau Natur Lleol a Chyrff Cyhoeddus eraill i’r lansiad hefyd, a rhannwyd yr Adroddiad ei hun ledled Cymru er mwyn hysbysu gweithgareddau’r dyfodol.
Mae’r LNP wedi parhau i weithio i mewn i’r cyfnod cyllido presennol, a her allweddol a ganfuwyd yn ystod y cam peilot oedd diffyg capasiti a chyfleusterau i sychu a storio’r hadau. Maen nhw wedi gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i sefydlu cyfleuster sychu hadau ar safle Fferm Tŷ Mawr. Maen nhw’n mynd i brynu cynhwysydd cludo a chontractio arbenigwr i’w baratoi fel y gellir ei ddefnyddio gan yr holl bartneriaid sy’n gysylltiedig â’r prosiect. Bydd hyn yn helpu i gynnal gwelliannau hirdymor i fioamrywiaeth a gwydnwch yr ecosystem ar draws Bannau Brycheiniog, gan ganiatáu i genedlaethau’r dyfodol fwynhau’r dirwedd gyfoethog a phrydferth hon.
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS