English

Cronfa Her Gwydnwch Morol

Rhaglen fer a redodd rhwng Ionawr a Mawrth 2026 oedd y Gronfa Her Gwydnwch Morol, a ddarparodd gyllid ar gyfer prosiectau a oedd yn gweithio ar hyd arfordir Cymru i gefnogi’r amgylchedd morol.

Blaenoriaethau’r cynllun oedd i:

  • Leihau’r pwysau ar ecosystemau morol, gan arwain at welliannau mewn bioamrywiaeth a gwydnwch yn erbyn y newid hinsawdd.~

  • Trwy gynlluniau morol strategol a llywodraethu da, cefnogi’r ymdrechion i ddefnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy a chyflawni ynni adnewyddadwy o’r môr, gan gydnabod y defnyddiau sefydledig a chyflwyno mesurau diogelu amgylcheddol.

  • Cryfhau gwydnwch amgylcheddau morol ac arfordirol trwy alluogi camau gweithredu i wella llythrennedd morol, buddsoddiad glas a chapasiti arfordirol, a fydd yn arwain at ddefnydd mwy cynaliadwy o adnoddau morol ac ecosystemau morol gwydn.

Cafodd 12 prosiect ddyfarniad ar draws Gwynedd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Bannau Brycheiniog, Ynys Môn a Sir Gaerfyrddin. Cafodd pob prosiect ei gyflawni gan bartneriaethau natur lleol (LNPs) mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol.

Ymhlith y prosiectau llwyddiannus roedd partneriaeth ag Amgueddfa Cymru i greu sioe tacsonomi morol deithiol, partneriaeth â Tethys Oysters i ddatblygu deorfa wystrys gyntaf Cymru, datblygu amddiffynfeydd arfordirol yn erbyn erydiad twyni tywod a phartneriaeth â Pelagos i gyflwyno pobl ifanc i yrfaoedd mewn cadwraeth forol.

Building Inclusive Pathways into Wales’ Blue Economy

Creu Llwybrau Cynhwysol i Economi Las Cymru

Cronfa Her Gwydnwch Morol
Castell-nedd Port Talbot 25-26

Cyflawnodd LNP Castell-nedd Port Talbot dri phrosiect Cronfa Her Gwydnwch Morol yn 2025-26 gyda'r Sea Ranger Service, pob un yn canolbwyntio ar elfen wahanol o ddarn ehangach o waith. Gyda’i gilydd, derbyniodd y tri phrosiect gyfanswm o £38,000.

darllen mwy


Sioe Deithiol Tacsonomeg Morol AC Gwynedd

Sioe Deithiol Tacsonomeg Morol AC Gwynedd

Cronfa Her Gwydnwch Morol
Gwynedd 25-26


Cyflwynodd PNL Gwynedd mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac Amgueddfa Cymru weithdai i arfogi gwirfoddolwyr â'r wybodaeth i deimlo'n hyderus wrth adnabod anifeiliaid morol, gan eu galluogi i fonitro ein glannau a chofnodi rhywogaethau dangosydd newid hinsawdd a rhywogaethau estron goresgynnol.

darllen mwy


O Ffynhonnell yr Afon i'r Môr

O Ffynhonnell yr Afon i'r Môr

Cronfa Her Gwydnwch Morol
Bannau Brycheiniog 25-26

Ar yr olwg gyntaf, gall prosiect Gwydnwch Morol ymddangos yn anarferol ar gyfer parc cenedlaethol tirgaeedig. Ond mae'r afonydd, nentydd a’r dyfrffyrdd sy'n llifo trwy Fannau Brycheiniog wedi'u cysylltu yn y bôn ag iechyd yr amgylchedd morol.

darllen mwy


Y Môr a Ni Springboard

Prosiect Sbardun Y Môr a Ni

Cronfa Her Gwydnwch Morol
Ynys Môn 25-26

Dyfarnwyd cyllid Her Gwydnwch Morol gan Lywodraeth Cymru a'i weinyddu drwy'r Bartneriaeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur rhwng Ionawr a Mawrth 2026 i gyflawni prosiect Sbardun Y Môr a Ni. Roedd y cyllid yn cefnogi amser ac adnoddau ar gyfer dau Swyddog Prosiect a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

darllen mwy


2026 LNP Cymruwebsite by WiSS