Mae’r Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn ariannu prosiectau lleol mewn ardaloedd arfordirol yng Nghymru i ddod â phartneriaid at ei gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae’n galluogi cymunedau i weithredu yn ardaloedd arfordirol Cymru i gefnogi’r gwaith o adfer natur a chynaliadwyedd. Mae Cronfa yn parhau ar gyfer 2025-27, yn dilyn rownd lwyddiannus o brosiectau yn 2023-25.
Y cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy’r Partneriaethau Natur Lleol (LNPs) a chaiff prosiectau eu rhedeg mewn partneriaeth â Chydlynydd y LNP lleol. Nod y gronfa yw meithrin gallu ar gyfer partneriaid cymunedol, gan eu helpu i gymryd camau gweithredu cynaliadwy sy’n cefnogi twf ac adferiad mewn ardaloedd morol ac arfordirol lleol.
Mae’n annog cydweithio rhwng rhanddeiliaid, fel cymunedau, busnesau, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, ac yn adeiladu rhwydweithiau sy’n meithrin adferiad ac adfywiad natur mewn ardaloedd arfordirol. Rhaid i bob prosiect fodloni o leia un o amcanion Deddf Pysgodfeydd 2020.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r cynllun yn 2025-27, gan adeiladu ar ei fuddsoddiad mewn adfer natur leol drwy’r Partneriaethau Natur Lleol.
Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o weithgareddau’r gronfa yn cefnogi:
2026 LNP Cymruwebsite by WiSS