English

LNP Merthyr Tudful

Gwlyptiroedd Taf Bargoed

Cronfa Her 23-25

Mae Partneriaeth Natur Leol (LNP) Merthyr Tudful wedi ennill Gwobr Dirwedd Genedlaethol arobryn Cymdeithas Diwydiannau Tirwedd Prydain (BALl) am eu gwaith ar ddatblygu gwlyptir Taf Bargoed, a grëwyd trwy Gronfa Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2025.

Trwy weithio gyda pheirianwyr tirwedd Inscapes, trawsnewidiwyd safle corsiog yn gyfres o byllau dŵr a chynefinoedd bywyd gwyllt. Cynyddodd hyn y fioamrywiaeth ym Mharc Taf Bargoed. Ac yntau wedi’i ddylunio fel system ddraenio drefol gynaliadwy, roedd gan y prosiect hefyd y diben pwysig iawn o liniaru llifogydd yn yr ardaloedd preswyl cyfagos. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd y strydoedd y tu ôl i’r parc wedi bod o dan ddŵr droeon. Ers i’r gwaith hwn gael ei wneud, mae’r dŵr glaw dros ben wedi’i sianelu i mewn i’r pyllau dŵr ac nid yw’r tai cyfagos mewn perygl o lifogydd mwyach.

Dechreuodd y gwaith gydag arolygon topograffeg ac asesiadau ecolegol er mwyn sicrhau bod y bywyd gwyllt presennol yn cael ei ddiogelu. Unwaith y pennwyd y ffordd orau o arallgyfeirio’r dŵr, ychwanegwyd elfennau dylunio pellach. Crëwyd tri phwll dŵr i gefnogi bywyd gwyllt lleol a denu rhywogaethau eraill a allai ddefnyddio’r pyllau fel cynefin; canolbwyntiwyd ar adar, amffibiaid ac infertebratau.

Cafodd y pyllau dŵr eu leinio am hir oes, ac ychwanegwyd planhigion dŵr croyw brodorol i ddarparu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt. Plannwyd coed brodorol ar y perimedr.

Crëwyd llwybr pren uwch i ganiatáu llwybr cylchol o amgylch y safle, a gynigiodd olygfeydd gwahanol y gellid eu mwynhau gan drigolion lleol. Ychwanegwyd waliau traddodiadol o gerrig sychion a cherflun wrth fynedfa’r safle. Codwyd tŵr ystlumod a gwesty pryfed hefyd, gan ganiatáu i fwy fyth o rywogaethau fwynhau’r safle.

Mae dibenion di-ri i brosiectau ystyriol fel yr un hwn. Cefnogi natur ac adloniant, ond hefyd lliniaru rhai o effeithiau tywydd eithafol. Wrth i’r hinsawdd barhau i newid, bydd prosiectau o’r fath yn dod yn fwyfwy bwysig.

2026 LNP Cymruwebsite by WiSS