English

Gardd flodau er anrhydedd i ofalwyr Cwmbrân

Mae Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen wedi helpu i greu gardd flodau newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl yn Nhorfaen.

Fel rhan o’r Wythnos Gofalwyr hon, mae Cyngor Torfaen wedi rhoi darn o dir yn Llyn Cychod Cwmbrân, a fydd yn llawn planhigion drwy gydol y flwyddyn diolch i Bartneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Torfaen.

Roedd Alan Walker, o Bont-y-pŵl, a ofalodd am ei ddiweddar wraig, ymhlith y gwirfoddolwyr a helpodd i blannu 400 o flodau’r wythnos hon.

‘Mae’r ardd yn rhywbeth hyfryd iawn a gobeithiaf y bydd pobl yn ei mwynhau ac yn ei gwerthfawrogi,’ meddai Mr Walker.

‘Mae tîm Cyngor Torfaen bob amser wedi bod yn fodlon iawn eu cymwynas – roeddent bob amser yno i roi cyngor i mi pan oedd ei angen arnaf ac roedden ni yn wir wedi mwynhau mynd ar y gwyliau a’r teithiau dydd a drefnwyd.’

Ardal werdd arall yn Nhorfaen
Talwyd am y blodau gan ddefnyddio Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru trwy Bartneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen.

‘Rydyn ni’n falch iawn i allu cefnogi’r Cyngor wrth iddynt ddatblygu ardal werdd arall lle y gall trigolion Torfaen gysylltu â byd natur a gwella eu lles,’ meddai Vee Brannovic, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen.

‘Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i lawer o ofalwyr di-dâl a’u teuluoedd – gobeithiwn y gall yr ardd flodau hon fod yn rhywle y gallant deimlo’n gyfforddus er mwyn ymlacio a myfyrio’.

Teyrnged i ofalwyr
Trefnwyd yr ardd gan dîm Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Torfaen sy’n rhoi cymorth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl.

Meddai’r Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai: ‘Mae thema Wythnos Gofalwyr eleni yn gwneud i ofalwyr deimlo eu bod yn weladwy ac wedi’u gwerthfawrogi.

‘Mae’r ardd hon yn deyrnged i’r holl ofalwyr di-dâl yn Nhorfaen a bydd yn rhywle y gallant ymweld ag ef a’i fwynhau.’

‘Mae pob un ohonom ni’n ymwybodol bod lefelau straen wedi bod yn uwch nag erioed wrth ofalu am bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf,’ meddai Gill Pratlett, Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion, Tai, a Chomisiynu yng Nghyngor Torfaen.

‘Diolch yn fawr iawn i’r holl ofalwyr yn Nhorfaen, y rhai rydyn ni’n eu hadnabod a’r rhai dydyn ni byth yn cwrdd â nhw.’

I gymryd rhan yng ngwaith Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen, cysylltwch â Chydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol, Vee Brannovic.

Cwmbran carers receive honorary flower garden

Cwmbran carers receive honorary flower garden

Cwmbran carers receive honorary flower garden

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS