English

Biosffer Dyfi

Coedwig Genedlaethol Cymru Ceredigion 23-25

Gweithiodd Partneriaeth Natur Leol (PNL) Ceredigion gyda chontractwyr a gwirfoddolwyr i adfer mynediad i goetir yng Nghoed Taliesin. Roedd coed pinwydd mawr a oedd wedi'u chwythu i lawr yn ystod storm Darragh wedi cau llwybrau ac roeddent yn beryglus. Roedd yna hefyd brinder o ran lle i gadw offer, a oedd yn cyfyngu ar y gwaith y gallai gwirfoddolwyr ei wneud ar y safle a chyfyngu ar hygyrchedd i bobl ag anghenion ychwanegol.

Bu contractwyr yn torri’r coed peryglus a'u melino’n bren, a chafodd gwirfoddolwyr eu huwchsgilio i allu defnyddio'r pren i adeiladu sied i gadw offer a chreu canllaw coed cyll o’r goedlan. Gorffennodd y cyfranogwyr bob diwrnod gwirfoddoli gyda sesiwn goginio awyr agored.

Yn dilyn y chwe sesiwn wirfoddoli a gynhaliwyd yn ystod cyfnod y prosiect, mae'r safle yn parhau i gael ei ddefnyddio gan y gymuned leol gan ei fod bellach yn fwy hygyrch. Sefydlwyd grŵp Cyfeillion Coed Taliesin, ac mae'n cwrdd yn rheolaidd. Eu nod yw defnyddio gweddill y pren a gynhyrchwyd ar y safle i greu seilwaith ychwanegol gan ganiatáu ymweliadau ysgolion a sesiynau gwirfoddoli â chymorth fel rhan o raglen therapi ar gyfer cleientiaid canolfan ddydd gyfagos.

2026 LNP Cymruwebsite by WiSS