English

Ynys Môn

Bug Housing Boom

Creodd Partneriaeth Natur Leol Ynys Môn y prosiect Bug Housing Boom (Ffyniant Tai Pryfed) er mwyn: adeiladu gwestai pryfed a gweithio ochr yn ochr â disgyblion i greu cynefinoedd bywyd gwyllt mewn ysgolion; cefnogi bioamrywiaeth a natur a chynnig cyfleoedd dysgu gwahanol; rhoi adnodd dysgu awyr agored i ysgolion a allai gefnogi dysgu ac addysg awyr agored hirdymor a chynyddu’r ddealltwriaeth o fyd natur a’r cariad at natur.

Nod y Bug Housing Boom yw gwella a datblygu cynefinoedd bywyd gwyllt, cynyddu bioamrywiaeth a chodi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol wrth addysgu ac ennyn diddordeb disgyblion ysgol gynradd mewn natur a’r amgylchedd.

Dros gyfnod y prosiect, mae’r LNP wedi plannu tua 4,000 o fylbiau brodorol, 300 o blygiau a 60 o goed ar gyfer creu clawdd; wedi adeiladu 11 o westai pryfed, plannu coed ffrwythau mewn nifer o ysgolion i helpu’r ysgolion i gynnig bwyd ffres ac iach i ddisgyblion ac wedi cyflwyno’r prosiect i 11 o ysgolion yn hytrach na’r naw a fwriadwyd gan eu bod wedi gallu ymestyn y cyllid yn bellach nag y rhagwelwyd yn wreiddiol.

Mae plant wedi mynd ati i blannu, adeiladu gwestai pryfed a chynnal a chadw a datblygu’r ardd, ac mae tîm Elfennau Gwyllt/Wild Elements wedi gwneud gwaith pellach ar dir ysgolion hefyd, fel glanhau ardaloedd anniben a oedd wedi tyfu’n wyllt, gan wella golwg yr ardal a chreu lle ar gyfer gweithgareddau dysgu awyr agored. Gwnaeth 500 o blant a 45 o staff ysgol gymryd rhan yn y gweithgareddau.

Yn ôl canlyniadau’r arolwg disgyblion, gwnaeth y plant fwynhau’r prosiect ac maen nhw’n deall a hoffi natur mwy/mwy o lawer. Yr her fwyaf oedd y tywydd gwael, gyda’r sesiynau yn gorfod cael eu haildrefnu oherwydd natur awyr agored y prosiect. Fodd bynnag, bu’r prosiect yn llwyddiannus yn y pen draw, ac mae gan yr 11 o ysgolion a gymerodd ran yn y prosiect adnodd addysgol ychwanegol nawr y gellir ei ddefnyddio ar gyfer addysg awyr agored a gweithgareddau cysylltu â natur.

Mae cynefin wedi’i greu a’i wella er mwyn cefnogi bioamrywiaeth, pryfed peillio, infertebratau ac adar trwy blannu blodau, coed a bylbiau brodorol a fydd yn eu lle am amser maith.

Dyma beth oedd gan y plant a gymerodd ran yn y prosiect i’w ddweud am Elfennau Gwyllt: “wedi fy nysgu i am sut mae natur yn gweithio”, “Roedd e’n hwyl a dysgais i beidio â lladd pryfed” ac “Rydw i wedi dysgu bod llawer o bryfed yn peillio”.

2026 LNP Cymruwebsite by WiSS