Derbyniodd Partneriaeth Natur Leol Ynys Môn gyllid Her gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Nod y prosiect oedd adfer cynefinoedd coll neu mewn perygl mewn parthau morol a dŵr croyw o amgylch afon Menai, a fyddai’n arwain at greu llwybrau natur tanddwr, cynnig sesiynau snorclo a chael ymgysylltiad â’r gymuned.
Bu’r syniad arloesol o drefnu sesiynau codi sbwriel ar badlfyrddau’n boblogaidd, a gwnaethant lansio’r prosiect gyda thair sesiwn lanhau ar afon Cegin, Gwynedd, afon Menai ac afon Braint. Yn ystod y cyfnod lansio, gwnaethant hefyd hyfforddi grŵp ymroddedig o gadwraethwyr i fonitro’r gwaith trwy gydol y prosiect.
Gyda help y cyllid Her, bu modd i’r LNP gynnig hyfforddiant achrededig i fwy na 100 o wirfoddolwyr. Yn ystod y prosiect, enillodd pedwar cyfranogwr y wobr Achubwr Dŵr Agored, ac mae’r LNP yn gobeithio cynnig hyfforddiant achrededig i fod yn hyfforddwr snorclo i 12 cyfranogwr arall fel bod arolygon snorclo yn gallu cael eu cynnal.
Mae afon Braint yn ne-orllewin Ynys Môn yn afon leol bwysig i frithyllod a sewin (Salmo trutta), sy’n rhywogaethau blaenoriaethol yn y DU. Mae’r maetholion a’r dŵr ffo sy’n gysylltiedig â gweithgareddau amaethyddol yn y dalgylch yn bryderus iawn i ansawdd y dŵr a’r brithyll, felly creodd yr LNP barthau clustogi yn y coetir, sy’n gallu cyflwyno lliaws o fuddion i’r afon, gan gynnwys atal dŵr ffo, sefydlogi glannau er mwyn lleihau erydu, rhoi cysgod a llecynnau i bysgod guddio rhag ysglyfaethwyr a chynyddu’r cyflenwad o infertebratau’r tir sy’n gydran bwysig o ddeiet y brithyll.
Ymgymerodd yr LNP ag ychydig o waith trwsio ffensys ac ail-blannu hefyd. Gwnaeth hyn gynnwys codi mwy nag 1.5km o ffensys stoc newydd i atal defaid a gwartheg rhag mynd i mewn i’r afon a photsio o’r glannau. Gosodwyd saith cafn yfed, rhai gyda phibellwaith i brif gyflenwad a rhai gyda phympiau dŵr solar. Gyda chymorth gwirfoddolwyr, crëwyd dros 1.5 hectar o goetir yn y gwlypdiroedd cyfagos trwy blannu coed collddail brodorol. Gwnaethant hefyd gau rhyd a oedd wedi’i herydu’n ofnadwy a thrwsio pont a oedd wedi’i hesgeuluso.
Mae glanhau ac adfer yr afon a chreu llwybrau snorclo wedi annog mwy o bobl i archwilio a gwerthfawrogi’r dyfrffyrdd lleol. Gwnaeth y prosiect hefyd hybu gwyddor dinasyddion, gyda chymunedau yn cymryd rhan mewn gweithgareddau profi ansawdd dŵr ac yn monitro rhywogaethau goresgynnol tanddwr.
2026 LNP Cymruwebsite by WiSS