Mannau Natur Cymunedol a Choridorau Gwyrdd
Gwnaeth Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy ddatblygu’r prosiect Mannau Natur Cymunedol a Choridorau Gwyrdd i drawsnewid mannau gwyrdd a’u gwneud yn wydn. Crëodd yr LNP asedau, gan ehangu’r cyfalaf naturiol a oedd eisoes yn bodoli a gwella mannau gwyrdd yn sylweddol. Mae’r peiriannau i hwyluso’r gwaith o newid rheolwyr mewn modd cynaliadwy wedi bod yn rhan bwysig o hyn.
Nod y prosiect oedd darparu natur ar drothwy’r drws trwy wella coridorau gwyrdd a chreu mannau natur cymunedol ochr yn ochr â gwell rheolaeth gynaliadwy o fannau gwyrdd i bobl a bywyd gwyllt.
Cafodd asesiad Coridorau Gwyrdd ei gynnal ar aneddiadau Sir Fynwy fel rhan o brosiect cynharach a gyllidwyd ar wahân er mwyn nodi cyfleoedd i wella gwydnwch natur a seilwaith gwyrdd.
Gwnaeth yr wybodaeth o’r adroddiad hwn, ynghyd ag ymgynghoriad cynnar, ffurfio’r sylfaen ar gyfer dewis safle ym Mlwyddyn 1. Cysylltwyd â phenseiri tirwedd i gael cymorth technegol, gan gynnwys lluniadau ar gyfer ymgynghoriadau a manylion tirweddu. Ym mlwyddyn 2, cafodd y prosiectau eu llywio’n agosach gan grwpiau cymunedol a oedd eisiau gwelliannau yn eu hardaloedd. Cafodd safleoedd eu gwirio am eu haddasrwydd a chafodd dyluniadau eu cyd-gynhyrchu.
O ganlyniad i ymgynghori helaeth â phobl leol, cafodd pob man ei ddylunio ar sail dymuniadau ac anghenion presennol yr ardal. Ar y dechrau, canolbwyntiodd y prosiect fwy ar ardaloedd difreintiedig ein trefi, gan gysylltu pobl nad oedd o bosibl wedi cael mynediad at natur leol nac yn ymwybodol ohoni. Gwnaethant hefyd edrych ar fannau llai difreintiedig ond lle roedd y gymuned yn awyddus i gefnogi camau gweithredu ar gyfer natur.
Dros gyfnod y prosiect, llwyddodd yr LNP i wella 15.5 hectar o dir drwy’r prosiect Mannau Natur Cymunedol a Choridorau Gwyrdd ar draws mwy na 40 o safleoedd. Roedd hyn yn cynnwys -
Gwellodd y prosiect fwy na 40 o safleoedd i hyd, cyfanswm o oddeutu 15.5 hectar. Y brif elfen o wella’r safleoedd oedd hau a phlannu planhigion brodorol er mwyn cynyddu cynefinoedd blodau gwyllt brodorol. Gosodwyd hadau brodorol, glaswellt blodau gwyllt, bylbiau’r gwanwyn a phlygiau o flodau gwyllt yr haf er mwyn cefnogi pryfed peillio drwy gydol y flwyddyn. Maen nhw wedi plannu coed ffrwythau Cymreig, coed sbesimen a chloddiau. Maen nhw wedi canfod mannau i osod gwestai pryfed, cartrefi draenogod a bocsys adar ac ystlumod. Maen nhw hefyd wedi gosod meinciau newydd i’r gymuned fwynhau’r cynefinoedd newydd hyn.
Mae newid y peiriannau wedi hwyluso’r gwaith o newid rheolaeth mannau gwyrdd, ac mae pwynt terfynol ar gyfer gwair wedi’i dorri (creu tomwellt a chompostio) hefyd wedi galluogi newid cynaliadwy.
Roedd hi’n bwysig i’r LNP weithio gyda’r Cynghorau Cymuned a Thref a grwpiau cymunedol lleol ar ddyluniad gwelliannau bioamrywiaeth i fannau gwyrdd lleol. Golygodd hyn fod y gymuned wedi buddsoddi mewn parhau i gynnal a chadw’r mannau gwyrdd hyn ar ôl i’r prosiect ddod i ben. Ymhlith y grwpiau lleol oedd Gwirfoddolwyr y Rotari sy’n rheoli coedardd Brynbuga a’r grŵp gwirfoddoli, Please Eat the Garden (PEG), a helpodd i gyd-ddylunio a gosod rhai gwelyau llysiau uwch. Gwnaeth yr LNP hefyd lwyddo i ddarparu cynefin a seilwaith safle yng Nghae Hamdden Maerdy yn Y Fenni ar gyfer clwb garddio Mardy Roots, a Chyngor Cymuned Llandeilo Bertholau.
Mae’r prosiect hwn wedi rhoi cyfleoedd i ysgolion cynradd a gwirfoddolwyr garddio helpu i wella’r mannau gwyrdd y tu allan i safleoedd eu hysgolion, ar fannau gwyrdd lleol, er mwyn deall pwysigrwydd coridorau gwyrdd i fywyd gwyllt, e.e. ysgolion cynradd Rogiet, Goetre Fawr a Cantref yn helpu i blannu planhigion plwg ar safleoedd yn eu cymunedau.
Mae tîm Seilwaith Gwyrdd Cyngor Sir Fynwy yn parhau i gyflwyno diwrnodau gwirfoddolwyr cynefin ymarferol mewn ysgolion i addysgu plant am bwysigrwydd pryfed peillio.
Gan ymateb i arolwg ar y prosiect, dywedodd un o drigolion Rhaglan: ‘Rwy’n credu ei bod hi mor bwysig i ddarparu coridorau gwyrdd fel bod natur yn gallu ffynnu. Rydyn ni’n creu gormod o lawer o rwystrau – ffyrdd prysur, gerddi wedi’u hamgylchynu â ffens, cael gwared â chloddiau hanfodol. Mae angen i ni ddangos mwy o ystyriaeth a pharch at ein bywyd gwyllt ni – neu fe fyddwn ni’n colli llawer o rywogaethau a oedd unwaith yn gyffredin. Mae’r prosiect hwn yn gam i’r cyfeiriad iawn.’
Dywedodd Zoe o Glwb Garddio Mardy Roots: ‘Mae gweithio gyda Jane drwy’r prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi bod yn ffantastig. Roedd yr awydd lleol i blannu mwy o bethau a oedd yn ystyriol o fywyd gwyllt a gwella mannau gwyrdd eisoes wedi’u nodi a daeth yr help ychwanegol ar adeg dyngedfennol. Mae’r hyn a oedd unwaith yn ddim mwy na glaswellt wedi’i dorri bellach yn gymysgedd hyfryd o goed a blodau i fframio’r olygfa ac rydyn ni wedi cael cymaint o adborth positif a gwaith tîm gan bobl leol. Cefnogaeth arbennig, diolch!’
2026 LNP Cymruwebsite by WiSS