English

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

Bro Morgannwg/ Cronfa Her Lantra 25-27

Mae Lantra, elusen amgylcheddol sy'n gweithredu ledled y DU ac Iwerddon, yn cael ei chefnogi gan PNL Bro Morgannwg i gyflawni prosiect uchelgeisiol sy'n cyflenwi ffrwythau a llysiau ffres i ysgolion ledled Cymru.

Bydd y prosiect yn cefnogi 20 o dyfwyr lleol a phum cyfanwerthwr. Mae mecanwaith uwchraddio sy'n gyfeillgar i natur yn cael ei dreialu i wobrwyo arferion gwell, gydag adborth cynnar cadarnhaol gan dyfwyr. Mae'r Taliad Atodol sy’n Cefnogi Natur (NUP) wedi darparu'r gwytnwch ariannol sydd ei angen ar gyfer y busnesau hyn i barhau i gynhyrchu cnydau garddwriaethol o Gymru o ansawdd uchel o dan amodau hinsawdd yn y dyfodol. Mae'r sector eisoes yn symud i'r cyfeiriad cywir, ac rydym yn gwybod y bydd buddsoddiad amserol, wedi'i dargedu yn helpu i gynnal a chyflymu'r trawsnewidiad hwn. Mae'r NUP wedi rhoi'r gallu i'r tyfwyr gynllunio, ymrwymo a buddsoddi gan leihau'r risg i dyfwr.

O bob 100 tunnell o gynnyrch, mae'r enillion a ragwelir yn cynnwys: £215,420 o incwm ffermwyr; £797,054 mewn budd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol; 20 tunnell o CO2e wedi'i arbed; 7.2 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (FTE) wedi’u cefnogi; a chynnydd o 35% mewn bioamrywiaeth (wedi'i fesur gan fwy o fywyd adar mewn caeau a ffermir yn organig o'u cymharu â rhai anorganig).

Mae gan y model gefnogaeth gref. Mae 16 awdurdod lleol yn cymryd rhan, gyda dau arall yn awyddus i ymuno yn 2026 os oes digon o gynnyrch: Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Merthyr, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Powys, Torfaen, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerdydd, Gwynedd, Sir Ddinbych a Chonwy (ac mae Sir y Fflint a Wrecsam yn gobeithio ymuno os tyfir digon o gynnyrch).

Yn 2026 amcangyfrifir y bydd tua 600 o ysgolion yn derbyn llysiau o Gymru - tua 1 miliwn o ddognau plant - a bydd y prosiect yn parhau i mewn i 2027.

Mae gweithgareddau cofleidiol fel ymweliadau â ffermydd, y dangosir eu bod yn cynyddu parodrwydd plant i fwyta'r cynnyrch, yn cael eu datblygu gyda Phartneriaethau Bwyd Lleol.

Hyrwyddwyd y prosiect yn Sioe Frenhinol Cymru 2026, gan ddangos i ffermwyr sut y gall partneriaethau cyhoeddus-preifat gael manteision cymdeithasol ac amgylcheddol yng Nghymru.

2026 LNP Cymruwebsite by WiSS