English

Gwlyptir Taf Bargod

Cronfa Her Merthyr Tudful 23-25

Roedd stryd breswyl ger Parc Taf Bargoed yn Nhreharris yn cael trafferth gyda llifogydd dro ar ôl tro adeg cyfnodau gwlyb drwy gydol y flwyddyn, oherwydd dŵr ffo a gwedd y safle.

Ar ôl cynnal arolygon topograffeg ac asesiadau ecolegol, datblygwyd cynlluniau i greu datrysiad draenio ar ddarn o dir diffaith yn y parc. Y syniad oedd creu cyfres o byllau dalgylch ac ailgyfeirio dŵr o gwlfertau i'r afon sy'n rhedeg yn gyfochrog â’r safle.

Crëwyd tri phwll i gefnogi bywyd gwyllt lleol a denu rhywogaethau ychwanegol a allai ddefnyddio'r pyllau fel cynefin. Er bod y pyllau wedi'u leinio â choncrit i sicrhau hirhoedledd, roedd plannu gyda rhywogaethau dŵr croyw brodorol yn hanfodol i ddarparu cynefin i infertebratau ac amffibiaid.

Crëwyd llwybr pren uchel hefyd, a oedd yn llwybr cylchol ar draws y safle, ac yn creu llwybr newydd sydd wedi dod yn boblogaidd ymhlith cerddwyr cŵn lleol, gan alluogi trigolion i fwynhau mwy o'r parc.

Er mwyn cynyddu bioamrywiaeth y parc ymhellach, plannwyd coed o amgylch perimedr y safle a gosodwyd tŵr ystlumod a gwesty trychfilod.

Mae'r prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac nid yw trigolion lleol yn dioddef llifogydd mwyach. Mae ardal newydd o'r parc wedi'i hagor i ymwelwyr, ac mae planhigion a bywyd gwyllt brodorol yn ffynnu.

2026 LNP Cymruwebsite by WiSS