English

Gwynedd

Cymunedau Gwyrdd

Mae coedwig hynafol Borth-y-Gest yn codi uwchlaw’r pentref. Ers talwm, defnyddiwyd y pren o’r safle gan y diwydiannau adeiladu llongau a lledr. O ganlyniad, lle bu unwaith coedwig hynafol, roedd ardaloedd mawr o fannau agored o amgylch y goedwig bresennol heb arlliw o’r llystyfiant brodorol. Gweithiodd Partneriaeth Natur Leol (LNP) Gwynedd gyda Chyfeillion Borth-y-Gest i ailsefydlu’r mannau ‘gwag’ hyn fel cynefinoedd newydd – coridorau o gysylltedd amgylcheddol a fyddai’n ymestyn ac yn amgylchynu’r goedwig bresennol.

Yn ôl cofnodion hanesyddol, arferai coedwig Borth-y-Gest ymestyn dros ardal llawer mwy nag y mae heddiw. Cafodd nifer fawr o goed eu torri i lawr i’w defnyddio yn y diwydiannau adeiladu cychod ac yn y tanerdai lleol. Gellir gweld tystiolaeth o’r coed a dorrwyd i lawr o amgylch y safle hyd heddiw. Dechreuodd y prosiect ar y gwaith o ‘lenwi’r bylchau’, gan weithio gyda chontractwr lleol i glirio blynyddoedd o dyfiant rhedyn a llystyfiant garw arall. Bu’n rhaid defnyddio offer arbenigol ar gyfer y gwaith hwn oherwydd natur a lleoliad y safle, ynghyd â’r ffaith bod yr holl dir hwn ar lethrau serth.

Ar ôl i’r gwaith cychwynnol gael ei gwblhau, gwelwyd am y tro cyntaf yn gwmws faint o goed oedd wedi’u colli i’r hen ddiwydiannau lleol. Nodwyd fod ‘cylch cyfan’ o hen goetir wedi’u torri i lawr gan adael gwagle amlwg o gwmpas y coetir gwreiddiol. Gan fesur yr ardal o dir a dewis rhywogaethau brodorol, aeth yr LNP ati i blannu bron 4000 o goed (a oedd yn cynnwys 52 o goed ffrwythau ‘lleol’ mewn perllan bwrpasol). Cafodd y coed ifanc hyn eu hamddiffyn gan ddefnyddio cynnyrch pwrpasol (‘Rainbowterra’).

Tan yn ddiweddar, roedd rhan o’r safle hefyd yn cael ei defnyddio gan ysgol gynradd leol fel maes chwarae. Ond oherwydd pellter y safle o’r ysgol, ni chaiff y cae hwn ei ddefnyddio gan yr ysgol mwyach. Trwy blannu mwy na 500 o blanhigion brodorol ar hyd a lled yr ardal hon, gobeithir y bydd modd gweddnewid y cae hwn hefyd i fod yn gynefin blodau gwyllt, gan ychwanegu at yr ardal sydd eisoes yn cael ei rheoli fel man blodau gwyllt ar y safle.

Dros amser, gobeithir y bydd y gwagleoedd hanesyddol llwm o ran llystyfiant hyn yn cael eu llenwi â choed a phlanhigion brodorol, gan greu coridorau o gynefinoedd gwerthfawr o fewn safle sy’n ymestyn dros 12 hectar o dir.

Nid oedd y safle yn hygyrch iawn, ac yn go bellennig, ac arweiniodd hyn at brinder o gontractwyr tir a choed a allai weithio mewn lleoliad o’r fath. Serch hynny, cydweithiodd yr LNP yn effeithiol tu hwnt â’r contractwyr gan sicrhau gwaith o ansawdd uchel mewn lleoliad heriol o ran y dirwedd a hygyrchedd peirianyddol.

Rhaid i waith plannu o’r fath gael ei wneud yn ystod y gaeaf bob amser, ac mae ffactorau negyddol i wneud y gwaith hwn mewn tymor o dywydd gwael. Mewn lleoliad a oedd eisoes yn anodd o ran y tir a’r hygyrchedd, gwnaeth gwlypter y pridd ei gwneud hi’n anodd ac weithiau’n amhosibl gweithio (yn enwedig gyda pheiriannau).

Yn ystod Blwyddyn 2 y prosiect, y gobaith yw y bydd Cyfeillion Borth-y-Gest yn gallu parhau â’r gwaith, gan greu mwy o goridorau natur a fydd yn arwain o’r coetir i lawr i’r pentref. Mae trafodaethau eisoes wedi’u cynnal i gydweithio ymhellach â’r gymuned er mwyn hybu cynefinoedd a choridorau natur yn yr ardal a thu hwnt. Maen nhw hefyd yn gobeithio cynnal digwyddiadau cyhoeddus, fel teithiau tywys, a sefydlu grŵp casglu sbwriel.

2026 LNP Cymruwebsite by WiSS