English

Bro Morgannwg

Prosiect Seren Fôr

Cynhaliodd Partneriaeth Natur Leol Bro Morgannwg brosiect ar y cyd gyda Chanolfan Gofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWBReC) i helpu disgyblion a’r cyhoedd i ddysgu sut i ganfod, adnabod a chofnodi sêr môr ar lannau de Cymru. Cafodd adnoddau addysgol eu creu a chyflwynodd y tîm weithdy allgymorth. Roedd y cyfranogwyr a gymerodd ran yn cynnwys disgyblion ysgol lleol a staff ysgol, ynghyd ag aelodau o’r cyhoedd.

Roedd yr LNP eisiau i ddisgyblion a’r cyhoedd ddysgu mwy am sêr môr. Mae sêr môr yn boblogaidd ond nid ydynt yn cael eu deall a’u trafod yn iawn. Mae’r cofnodion yn isel ar flaenau traethau Cymru. Nod y Prosiect Seren Fôr oedd mynd i’r afael â hyn drwy addysgu pobl ar sut i gofnodi bioamrywiaeth, helpu pobl i ddeall pa mor sensitif yw’r anifail morol hwn, a newid eu hymddygiad tuag ato pan fyddant yn ei weld, ynghyd â rhoi awgrymiadau ar ei achub.

Ar ddechrau’r prosiect, roedd yr LNP yn gobeithio cyflwyno’r prosiect i ddeg ysgol, cynnal un digwyddiad cymunedol a chreu adnodd addysg. Aethant y tu hwnt i hyn yn ystod tymor yr haf trwy greu darn o gelf seren fôr o sbwriel, cyflwyno diwrnodau hyfforddiant ar gofnodi, cael mwy o wersi a diwrnodau ymgysylltu ag ysgolion a dechrau Gwobr ‘Sbotio Seren Fôr’. Yn y pen draw, gwnaethant ddarparu ar gyfer 11 o ysgolion i gyd, gan addysgu cyfanswm o 553 o ddisgyblion.

Gwnaeth yr ysgolion gymryd rhan mewn gêm Mi Wela’ I ar Lan y Môr (Sut i gofnodi sêr môr a rhywogaethau eraill mewn pyllau glan môr na gofnodir yn aml), cael eu haddysgu ar bâm fod hyn yn bwysig, edrych ar rywogaethau o sêr môr a ganfuwyd ar y traeth lleol gyda lluniau a sbesimenau, cymryd rhan mewn gêm achub a chael gwybodaeth am ‘addewid’ y gallent ei wneud i addo peidio â chyffwrdd â sêr môr yn y dyfodol. Gwnaeth disgyblion hŷn hefyd astudio anatomeg y seren fôr gan edrych ar sut mae hi’n anadlu a gweithio.

Yn ystod Gwanwyn 2025, cynhaliwyd digwyddiad cofnodi ar Draeth Llanilltud (Cwm Colhuw). Cafodd teuluoedd gyfle i ddysgu am sêr môr a sut i’w cofnodi nhw a rhywogaethau eraill mewn pyllau glan môr na gofnodir yn aml. Cafodd yr Adnodd Addysgol Digidol ei ddylunio a’i gyflwyno fel adnodd i athrawon, rhieni, arweinwyr grwpiau cymunedol a’r cyhoedd ei lawrlwytho, ac roedd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Gwnaeth 15 o wirfoddolwyr gymryd rhan yn y digwyddiad plannu yng Nghanolfan Gymunedol Penclawdd, gan gynnwys saith plentyn. Ymrwymodd pwyllgor y Ganolfan Gymunedol i reoli’r glaswelltir corsiog. Gwirfoddolwyr yw’r rhain felly maen nhw wedi ychwanegu’r dasg hon at eu rolau presennol. Mae cynllun rheoli wedi’i lunio iddyn nhw ei ddilyn ac mae ganddyn nhw fynediad at beiriant torri gwair y bydd ei angen ar gyfer y cynllun rheoli.

Bu wyth gwirfoddolwr yn gysylltiedig â phlanwyr yn GROW Cymru. Mae’r gwirfoddolwyr wythnosol wedi ymrwymo i reoli’r planwyr ac mae cynllun rheoli wedi’i lunio iddynt ei ddilyn. Cawsant offer a chaniau dŵr a bydd y gwirfoddolwyr yn defnyddio’r rhain i ofalu am y planwyr. Nododd y gwirfoddolwyr fod cymryd rhan yn y gwaith plannu wedi gwella eu llesiant. Mwynhaodd gwirfoddolwyr yr ymddiriedolaeth natur wneud rhywbeth gwahanol a oedd yn cynnwys plant a’r gymuned, a mwynhaodd y trigolion lleol fod allan yn yr awyr agored yn ystod y gwyliau hanner tymor, er gwaetha’r glaw.

Roedd gan drigolion lleol bethau positif i’w ddweud am y prosiect:

Rwy’n ceisio cyfyngu amser yn edrych ar sgrin yn ystod gwyliau hanner tymor, felly roedd hwn yn gyfle gwych i gael y plant allan yn yr awyr agored” - Sian Elizabeth Blanch

Mae’r plant yn cerdded heibio bob dydd ar eu ffordd i’r ysgol, felly bydd hi’n hyfryd iddynt weld y pethau rydyn ni wedi’u plannu yn tyfu a newid trwy’r tymhorau” – Katie Liam

2026 LNP Cymruwebsite by WiSS