Dyfodol mwy gwyrdd
Gwnaeth Partneriaeth Natur Leol Sir y Fflint ddefnyddio cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i adfer dau bwll mewn ysgolion yn y sir, yn ogystal ag adfer pwll a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) dyfrol mewn parc gwledig a reolir gan un o’u Cynghorau Cymuned.
Sir y Fflint yw un o’r prif siroedd yng Nghymru am y fadfall ddŵr gribog (Triturus cristatus). Mae’r rhwydwaith o byllau ledled y Sir yn safleoedd bridio pwysig i frogaod a madfallod. Ond, nid yw canran uchel o’u cynefinoedd dŵr croyw mewn cyflwr da iawn.
O ganlyniad, canolbwyntiodd y prosiect hwn ar adfer pyllau a oedd eisoes yn bodoli yn Ysgol Bro Carmel ac Ysgol Nannerch a’u dychwelyd i gyflyrau da a fydd yn hybu adferiad natur a chadwraeth bioamrywiaeth. Bydd y pyllau hyn sydd newydd eu hadfer hefyd yn darparu adnodd gwerthfawr ar gyfer addysg ar yr amgylchedd a fydd yn addysgu pobl am bwysigrwydd gwarchod yr amgylchedd, pwysigrwydd cyrff dŵr, rôl gwlypdiroedd mewn cefnogi bioamrywiaeth a’r gwasanaethau ecosystem y maen nhw’n eu darparu.
Roedd gan ysgolion Carmel a Nannerch un pwll ar eu safleoedd. Nid oedd yr un o’r ddau mewn cyflwr diogel y gellid eu defnyddio; roeddent wedi tyfu’n wyllt, yn llawn llaid ac yn cael eu cysgodi gan goed. Dim ond yn dymhorol fyddent yn dal dŵr hefyd am fod y leininau wedi torri. Nid oedd gan y pyllau unrhyw gofnodion o rywogaethau yn gysylltiedig â nhw, ychydig iawn o gynefin roeddent yn eu darparu ac nid oeddent yn cael eu defnyddio ar gyfer addysg ar yr amgylchedd.
Mae dau bwll ar safle Parc Gwledig Brychdyn. Roedd un pwll yng nghanol y Parc Gwledig heb ei reoli ers blynyddoedd a dim ond yn dal dŵr yn dymhorol. Roedd yr ail bwll wedi’i gymryd drosto gan y rhywogaethau estron goresgynnol Crassula helmsii, a oedd yn ffurfio matiau trwchus ac yn llethu llystyfiant brodorol. Mae poblogaeth fechan o fadfallod dŵr cribog wedi’u cofnodi ar y safle ac yn bresennol yn y dirwedd amgylchynol. Gwnaeth cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur alluogi’r LNP i dalu costau’r prosiect.
Rhwng Medi a Thachwedd 2024, cafodd gwaith paratoadol ei wneud a oedd yn cynnwys:
Cafodd gwaith adfer ymarferol ei wneud ar y pwll rhwng Tachwedd 2024 a Chwefror 2025 oherwydd cyfyngiadau bioamrywiaeth a gosodwyd platfformau dipio ym mhyllau’r ysgolion.
Mae cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (LPfN) i adfer y pwll yn Ysgol Bro Carmel wedi caniatáu i’r ysgol wneud cais am gyllid ychwanegol o £2000 gan ddarparwr grant arall i osod llwybr troed newydd o amgylch y pwll i wella’r mynediad.
Cafodd 28 o fadfallod eu cyfrif yn ystod arolwg golau lleuad yn y pwll sydd newydd ei adfer ym Mharc Gwledig Brychdyn, gan gynnwys Madfallod Dŵr Cribog.
Wynebodd y prosiect rai heriau. Roedd y prosiect pwll ym Mharc Gwledig Brychdyn yn gymhleth iawn oherwydd presenoldeb rhywogaethau estron goresgynnol a rhywogaethau a warchodir ar y safle. Er mwyn mynd i’r afael â’r problemau hyn, cafodd nifer o bartneriaid, fel yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Natur a’r Cyngor Cymuned lleol i gyd eu cynnwys mewn trafodaethau er mwyn sicrhau bod y polisi a’r broses gywir yn cael eu dilyn yn unol â’r ddeddfwriaeth. Llwyddwyd hefyd i gael trwydded cadwraeth rhywogaethau.
Roedd hi’n bwysig bod y gymuned leol a oedd yn defnyddio’r parc gwledig yn rheolaidd yn deall y gwaith a’r rhesymau dros wneud y gwaith er mwyn rhannu gwybodaeth am y prosiect.
Cafodd arwyddion ymwybyddiaeth dros dro eu gosod yn y parc a chynhaliwyd nifer o ymweliadau safle gan aelodau o’r Cyngor Cymuned lleol a’r staff.
Oherwydd cymhlethdod y prosiectau a’r peiriannau trwm oedd eu hangen, ychydig iawn o gyfranogiad a gafwyd gan aelodau o’r gymuned/gwirfoddolwyr yn ystod y gwaith adfer ymarferol. Fodd bynnag, bu’r gymuned leol a staff a phlant yr ysgolion yn gysylltiedig â’r cynlluniau adfer cychwynnol a byddant yn cymryd rhan yn y gwaith o fonitro’r safleoedd ar ôl eu hadfer.
Dywedodd Michael Martell, Pennaeth Ysgol Bro Carmel: “Mae adfer y pwll wedi bod yn fudd sylweddol a pharhaol i’r disgyblion a’r ysgol. Mae gan bob un o’n 180 o ddisgyblion a staff fynediad at ardal y pwll ar bob adeg a gallant gymryd rhan mewn dysgu awyr agored ystyrlon, er enghraifft, trwy astudio cylchredau bywyd, bywyd gwyllt lleol neu bwysigrwydd cynnal a chadw’r amgylchedd bioamrywiol. Mae adferiad y pwll hwn yn dod â syndod a rhyfeddod i fywyd bob dydd yr ysgol, ac yn ennyn diddordeb plant a fyddai’n ei chael hi’n anodd cymryd rhan mewn pethau yn yr ysgol fel arfer - mae ailsefydlu’r pwll fel ardal fywiog fwy effeithiol yn ysbrydoli’r disgyblion hynny’n fwy na dim ond dysgu yn y dosbarth. Wrth i’r gwaith o adfer y pwll barhau i ddatblygu, dod yn fwy sefydledig a chael mwy o rywogaethau, bydd yn gallu cynnig mynediad i ysgolion eraill yn ein hardal leol i wneud gweithgareddau chwilota yn y pwll ac astudiaethau bywyd gwyllt, gan ehangu’r cyrhaeddiad o gwpwl o gannoedd o ddisgyblion i filoedd o ddisgyblion posibl dros amser”.
2026 LNP Cymruwebsite by WiSS