Wrth i Wythnos Natur Cymru ddod i ben, mae Vee Brannovic, y Cydlynydd LNP dros Flaenau Gwent a Thorfaen, wedi ysgrifennu blog i ni er mwyn rhoi cipolwg i ni ar y bartneriaeth yn ei hardal a sut gallwch chi gymryd rhan.
Helo –Veronika ydw i, a fi yw Cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol dros Flaenau Gwent a Thorfaen. Rwyf wedi bod yn gwneud y swydd hon am ychydig dros flwyddyn, ond rwyf wedi bod yn aelod o’r bartneriaeth am fwy na 10 mlynedd, felly roedd gen i eisoes syniad reit dda o beth i’w ddisgwyl yn y rôl.
Mae’r LNP yn cynnwys pobl a grwpiau lleol sydd â diddordeb mewn natur, cyrff anllywodraethol amgylcheddol fel Ymddiriedolaeth Natur Gwent, ‘Groundwork’ a’r ‘Butterfly Conservation’, awdurdodau lleol a mudiadau llywodraethol fel Cyfoeth Naturiol Cymru.
Hyd at 2017, roedd gan Flaenau Gwent a Thorfaen ddwy Bartneriaeth Fioamrywiaeth ar wahân. Maen nhw bellach wedi uno i greu LNP Blaenau Gwent a Thorfaen. Rydyn ni’n cael cyfarfodydd bob chwarter ac fel arfer yn ymweld â safleoedd lleol o ddiddordeb yn yr haf. Mae’r cyfarfodydd wedi bod ar-lein yn ddiweddar, ond rydyn ni’n gobeithio cynnal cyfarfod yn yr awyr agored cyn hir.
Felly beth mae Cydlynydd LNP yn ei wneud? Mae’r swydd yn amrywiol tu hwnt – dyna un o’r rhesymau pam rwy’n ei mwynhau. Mae’n gymysgedd o waith sy’n cynnwys bod wrth gyfrifiadur, ymweld â safleoedd prosiect a chwrdd â grwpiau cymunedol ac unigolion i siarad am brosiectau sy’n seiliedig ar natur.
Yn ddiweddar, rwyf wedi treulio amser ar lunio a chyflwyno adroddiad a hawlio taliad terfynol ar gyfer prosiect glaswelltir a gyllidwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ynghyd â chreu rhai fideos ar gyfer Wythnos Natur Cymru, plannu rhai coed helyg mewn parc, trefnu sesiwn plannu blodau gwyllt ar gyfer yr Wythnos Gofalwyr i ddod ac wedi cwrdd â Gwarchod Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC) i drafod lleoliadau ar gyfer monitro madfallod dŵr, gwiberod a madfallod. Rwyf hefyd yn trefnu’r cyfarfodydd LNP, yn gwneud ceisiadau am gyllid ac yn rheoli prosiectau adfer byd natur ar raddfeydd amrywiol.
Rwyf wedi teimlo cysylltiad agos â byd natur ers yn blentyn ac mae’r cysylltiad hwn wedi cryfhau dros y blynyddoedd. Rwyf wedi cael trafferth gyda’m hiechyd meddwl ers oeddwn yn fy nglasoed ac mae treulio amser ym myd natur, hyd yn oed os mai dim ond yn yr ardd ydw i neu’n edrych allan drwy’r ffenestr, bob amser yn fy helpu.
Mae bod yn rhan o’r gwaith o adfer byd natur ar lefel leol yn dda i’m llesiant fy hun hefyd. Ddoe, cefais gyfle i gerdded yn yr heulwen yn edrych ar byllau – faint o swyddi fyddai’n cynnwys hynny? Rwy’n dysgu rhywbeth newydd am natur leol bob dydd. Pan oeddwn i allan gyda George o ARC, dysgais sut i ddweud y gwahaniaeth rhwng penbyliaid brogaod a llyffantod o’u hymddygiad a’u bod yn ymddangos ar adegau ychydig yn wahanol.
Os hoffech wybod mwy am LNP Blaenau Gwent a Thorfaen, gallwch ddod o hyd i ni yma: https://www.biodiversitywales.org.uk/Blaenau-Gwent-a-Torfaen
I ddod o hyd i Bartneriaeth Natur Leol sy’n benodol i’ch ardal chi a chymryd rhan mewn gwaith adfer natur lleol, gallwch gael y manylion cyswllt ar wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru o dan Lleol i Chi neu cysylltwch â thîm LNP Cymru.
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS