Natur Caerdydd
Trwy’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Gweithredu Adfer Natur, daeth yn amlwg bod draenogod yn un o’r rhywogaethau allweddol sy’n peri gofid i bobl yng Nghaerdydd. Gan weithio gyda Phrifysgol Caerdydd, ymunodd Partneriaeth Natur Leol Caerdydd â Phrosiect Monitro Draenogod Cenedlaethol y DU, a daeth Caerdydd yn safle cyntaf y prosiect yng Nghymru. Yn ystod haf 2024, cafodd dwy ardal eu harolygu gyda help gwirfoddolwyr.
Gwyddys fod poblogaethau draenogod wedi dirywio’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bellach, maen nhw wedi’u rhestru fel rhywogaeth ‘dan beth bygythiad’ ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.
Nod Prosiect Monitro Draenogod Cenedlaethol y DU (NHMP) yw nodi lle a pham mae draenogod yn ei chael hi’n anodd a rhoi mesurau cadwraeth priodol ar waith. Bydd yr NHMP yn cynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy o niferoedd y draenogod a fydd yn caniatáu i ni edrych ar wahaniaethau rhwng ardaloedd a chynefinoedd a darganfod newidiadau dros amser.
Gan ddefnyddio’r rhwydwaith o gamerâu sy’n cael eu defnyddio ar y safleoedd a arolygir i gymryd lluniau o ddraenogod ac anifeiliaid eraill, mae tîm yr NHMP yn defnyddio dulliau arloesol i ddadansoddi’r lluniau a chyfrifo dwysedd y boblogaeth.
Gwnaeth ymuno â’r NHMP roi cyfle i ni gasglu ychydig o ddata meintiol ar boblogaethau draenogod yng Nghaerdydd a datblygu camau gweithredu lleol i’w cefnogi.
Roedd yr arolwg yn cynnwys gosod camerâu bywyd gwyllt mewn 30 o leoliadau ar batrwm grid o fewn cilomedr sgwâr. Gosodwyd y camerâu oddeutu 30cm o’r ddaear, yn y lle delfrydol i synhwyro symudiadau draenogod. Cafodd y 30 o gamerâu bywyd gwyllt, y casys a’r cloeon eu prynu gyda chyllid Mannau Lleol ar gyfer Natur.
Roedd safle’r arolwg cyntaf o amgylch Parc Bute a champws Prifysgol Caerdydd yn Cathays. Roedd yr ail safle o amgylch Fferm Fforest yn yr Eglwys Newydd.
Gadawyd y camerâu arno am 30 diwrnod i dynnu lluniau draenogod a bywyd gwyllt arall, yna casglwyd y camerâu a lanlwytho’r lluniau i MammalWeb yn https://www.mammalweb.org/en. (Saesneg yn unig)
Cynigiwyd sesiynau gosod a chasglu camerâu fel cyfle gwirfoddoli. Cynhaliodd tîm yr NHMP ddwy sesiwn hyfforddi i wirfoddolwyr i gyflwyno’r arolwg, dangos sut i osod y camerâu a sut i ddadansoddi’r hyn a ddaliwyd ar MammalWeb. Gwnaeth staff a 18 o wirfoddolwyr osod y camerâu yn Cathays, a gwnaeth staff a 12 o wirfoddolwyr osod y camerâu yn Fferm Fforest.
Cynhyrchodd yr arolwg dros 80,000 o luniau a redwyd drwy raglen deallusrwydd artiffisial (AI) i gael gwared â lluniau o bobl a lluniau gwag.
Cafodd y gweddill (oddeutu 43,000 o luniau) eu dangos ar MammalWeb ac anogwyd gwirfoddolwyr i bori trwy’r lluniau a nodi’r rhywogaethau a oedd yn bresennol. Roedd hwn yn gam hanfodol i nodi pa luniau oedd â draenogod ac felly, angen eu dadansoddi ymhellach.
Hyd yma, mae mwy na 300 o wirfoddolwyr wedi cofrestru ar MammalWeb i ddod yn ‘wyliwr’ ac wedi helpu i ddadansoddi’r lluniau o’r camerâu. Hyd yma, mae oddeutu 12,000 o luniau wedi’u gwirio. Mae gallu cyfrannu at brosiect natur ar-lein wedi ehangu hygyrchedd a galluogi mwy o bobl i gymryd rhan.
Datgelodd y prosiect ddraenogod ar y ddau safle. Yn Cathays, mae 19 rhywogaeth o adar a mamaliaid wedi’u gweld hyd yma (heb gynnwys da byw, cŵn, cathod a phobl). Mae ysguthanod wedi’u gweld ar y rhan fwyaf o’r camerâu (17 o’r 30 o gamerâu). Y rhywogaethau nesaf y gwelwyd amlaf oedd y wiwer lwyd a’r llwynog coch. Hyd yn hyn, mae draenogod wedi’u gweld ar ddeg camera, sy’n golygu mai nhw yw’r 5ed rhywogaeth y gwelir amlaf ar draws y safle.
Yn Fferm Fforest, mae 34 rhywogaeth o adar a mamaliaid wedi’u gweld hyd yma (gan gynnwys da byw, cŵn, cathod a phobl). Mae’r llwynog coch yn ymddangos ar y mwyafrif o gamerâu (27 o’r 30 o gamerâu). Y rhywogaeth nesaf a welir fynychaf yw’r wiwer lwyd a’r ysguthan. Mae draenogod wedi’u gweld ar 3 camera hyd yma, gan eu gwneud nhw’r 15fed rhywogaeth a welir fynychaf ar draws y safle.
Ailadroddwyd yr arolygon yn Cathays a Fferm Fforest yn 2025 ac ychwanegwyd trydydd safle o gwmpas Parc y Mynydd Bychan. Ar ôl hyn, bydd y tîm yn Mammal Web yn defnyddio’r lluniau i amcangyfrif nifer y boblogaeth gan ddefnyddio canlyniadau 2024 a 2025.
Prif heriau’r prosiect hwn oedd cael camerâu wedi’u gosod mewn lleoliadau trefol prysur, yn enwedig o amgylch Cathays. Roedd prysurdeb yr ardaloedd yn golygu bod rhai o’r cardiau cof yn y camerâu yn llenwi’n gyflym iawn, felly nid oedd y rhain yn gweithredu am y 30 diwrnod llawn.
Mae’r prosiect hwn wedi cynhyrchu data gwerthfawr ar y rhywogaeth darged, y draenog, ond hefyd ar famaliaid ac adar eraill sy’n byw ar y safleoedd hyn. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i lywio rheolaeth y safle.
2026 LNP Cymruwebsite by WiSS