Gallai plannu’r goeden anghywir yn y lle anghywir achosi mwy o niwed na daioni yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae Rose Revera, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf yn esbonio pam ei bod mor bwysig ein bod ni’n ystyried rhywogaethau coed wrth blannu a’r hyn y mae ein Partneriaethau Natur Leol yn ei wneud i helpu.
Os ydych chi’n darllen hyn byddwch chi’n ymwybodol iawn ein bod ni yng nghanol argyfwng hinsawdd byd-eang. Un o’r ffyrdd y mae llywodraethau ar draws y byd yn ceisio mynd i’r afael â’r mater hwn yw trwy fentrau plannu coed anferthol gan obeithio bydd y coedwigoedd newydd yn amsugno’r CO2 rydyn ni’n ei ryddhau i’r atmosffer yn barhaus.
Mae mudiadau eraill, a hyd yn oed unigolion, sy’n gobeithio helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd mewn unrhyw ffordd bosibl hefyd wedi dechrau plannu coed er mwyn helpu’r achos.
Yr hyn nad yw’n cael ei ddarlledu mor aml am blannu coed yw’r effaith negyddol y gallai ei gael ar fioamrywiaeth. Trwy blannu coed ar hap mewn lleoedd ar hap, gallwn ni amharu ar gynefinoedd presennol, gwneud llanastr ar ecosystemau lleol, a hyd yn oed cynyddu allyriadau CO2.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Global Change Biology yn ddiweddar yn cynnig ‘Deg rheol aur’ ar gyfer plannu coed. Wrth i ni nesáu at y tymor plannu coed yng Nghymru, credaf eu bod yn ffordd wych o’n hatgoffa ni nad plannu coeden yw’r gweithredu gorau cyntaf bob amser.
Diogelu’r goedwig bresennol yn gyntaf
Mae coedwigoedd sydd wedi’u hen sefydlu yn cynnwys natur fwy cyfoethog ac maent yn llawer gwell na choedwigoedd newydd o ran amsugno CO2 oherwydd eu strwythur gymhleth a’u gwydnwch i dân a llifogydd. Gall unrhyw ecosystem mewn coedwig gymryd dros 100 mlynedd i adfywio – byddwch chi’n cytuno nad oes gennym ni’r amser ar gyfer hynny.
Cydweithio
Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen i ‘gynnwys pob rhanddeiliad ac i wneud pobl leol yn rhan annatod o’r prosiect’. Felly, beth am gymryd rhan yn eich Partneriaeth Natur Leol yn y man cychwyn sef rhwydwaith o bobl a mudiadau lleol sy’n gofalu am fyd natur yn eich ardal chi. Bydd modd i chi ddysgu a oes gweithgareddau plannu coed ar waith yn eich ardal leol neu weld ble fyddai’r ardal fwyaf priodol ar gyfer prosiect newydd.
Anelu at gynyddu adferiad bioamrywiaeth i’r eithaf er mwyn diwallu amrywiaeth o nodau
Mae Senedd Cymru newydd ddatgan argyfwng natur ac mae awdurdodau lleol wedi adleisio hyn. Mae’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod unrhyw weithgarwch plannu coed yn gwella cynefinoedd naturiol Cymru. Mae rhwydweithiau megis Partneriaeth Natur Leol yn helpu i sicrhau bod eiriolwyr ar gyfer natur ym mhob rhan o Gymru sydd wrth law i roi arweiniad a chyngor i bawb.
Dewis ardaloedd addas ar gyfer ailgoedwigo
Fel y soniais yn gynharach, y peth cyntaf y mae’n rhaid i ni ei wneud yw adfer coedwigoedd presennol. Y peth gorau nesaf y gallwn ni ei wneud yw plannu ar dir â choed lle y mae’r coetir wedi dirywio. Mae angen i ni osgoi plannu ar dirweddau naturiol presennol (glaswelltiroedd, gwlyptiroedd ac ati) oherwydd bydd y rhain eisoes yn casglu carbon a siŵr o fod mwy o garbon nag y gallai coed newydd.
Defnyddio adfywio naturiol lle bynnag y bo modd
Yn aml, mae’n well i natur ymdrin â’r sefyllfa nag i ni ddechrau palu. Nid ar gyfer cynefinoedd yr ardaloedd ond hefyd ar gyfer yr hinsawdd. Mae’r adroddiad yn nodi, ‘Mae posibilrwydd bod dal a storio carbon mewn ardaloedd a adfywiwyd yn naturiol yn 40 gwaith yn fwy na mewn planhigfeydd.’
Fodd bynnag, mae’r adfywio’n dibynnu ar ffactorau eraill megis agosrwydd at goedwig naturiol a gwlypter yr hinsawdd. Os yw’r rhain yn cael eu bodloni, gadewch iddo dyfu!
Dewis rhywogaethau sy’n cynyddu bioamrywiaeth i’r eithaf
Os ydych chi wedi ystyried yr opsiynau uchod ac yn mynd i blannu o hyd, sicrhewch eich bod chi’n ystyried pa rywogaethau rydych chi’n mynd i’w plannu er mwyn helpu i greu cynefin coetir bywiog. Plannwch gasgliad o rywogaethau er mwyn annog bioamrywiaeth gan flaenoriaethu rhywogaethau cynhenid ac eithrio rhywogaethau anfrodorol. Un o brif fuddion bioamrywiaeth yw y bydd yn cynyddu dwysedd eich coetir oherwydd amrywiaeth mwy cyfoethog o heuwyr hadau.
Defnyddio deunydd planhigion gwydn
Ydych chi’n dymuno i’ch coedwig ffynnu? Hadau yw’r man cychwyn ac, fel pob amser, gorau oll eu bod mor amrywiol â phosibl o ran geneteg. Mae arfer da yn cynnwys casglu hadau gan o leiaf 50 o goed unigol ar draws y boblogaeth rhieni lawn. Felly, dechreuwch gasglu!
Cynllunio o flaen llaw ar gyfer seilwaith, capasiti, a chyflenwad hadau
Y rheswm ein bod ni’n profi argyfwng hinsawdd yn y man cychwyn yw oherwydd nad oedden ni wedi cynllunio tua’r dyfodol. Mae meithrinfeydd coed a chanolfannau tarddiad hadau yn sicrhau nad oes gennym ni goetiroedd ar gyfer heddiw yn unig ond bydden nhw yma am flynyddoedd i ddod.
Er enghraifft, mae Partneriaeth Natur Leol Sir Ddinbych wedi sefydlu meithrinfa goed i dyfu coed cynhenid tarddiad lleol i’w plannu ar draws y sir. Bydd hyn yn helpu i nid yn unig gynhyrchu deunydd planhigion gwydn ar gyfer coetiroedd yr ardal ond, hefyd, parhau i gynhyrchu hadau i gyflenwi’r coetiroedd i ddod. Felly, ystyriwch ymweld â’ch meithrinfa goed cyn plannu – neu, efallai, dechreuwch un eich hun (siaradwch â’ch Partneriaeth Natur Leol yn gyntaf wrth gwrs!)
Dysgu trwy wneud
Arfer gorau yw cynnal cynllun treialu bach cyn ymrwymo i blannu neu i adfywio coetir enfawr. Os ydych chi’n adfywio ar hen blot byddai hefyd yn syniad da i chi siarad â grwpiau cymunedol a fydd yn cofio’r goedwig yn ei hoes blaenorol.
Gwneud iddo dalu
Cyfeiria rhan hon yr adroddiad yn fwy at ardaloedd o fforestydd glaw trofannol y byddant, fel arall, yn dir amaeth – yr angen i sicrhau bod eu hincwm yn cynhyrchu mwy nag y byddai perchennog y tir yn ei ennill fel arall.
Fodd bynnag, yn ein hachos ni, credaf fod angen ‘talu’ o hyd trwy roi rhywbeth i’r gymuned – cyfle i ddysgu am fyd natur, blino’r plant, neu ardal heddychlon i ddal eich anadl. Trwy hwyluso’r cyfleoedd hyn cymaint â phosibl rydyn ni’n gwella ein coetir.
Mae’r cyfeiriadau ar gyfer y pwyntiau uchod, yn ogystal â gwybodaeth fanylach, ar gael yn adroddiad llawn Global Change Biology.
Os ydych chi’n ystyried plannu coeden neu os yw’ch mudiad yn ystyried plannu coed, cysylltwch â’ch Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol i ddysgu mwy am yr hyn sy’n briodol ac yn addas ar gyfer eich ardal chi.
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS