English

Blaenau Gwent

Cymdogaethau Naturiol

Bwriad Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent, fel rhan o’u prosiect Cymdogaethau Naturiol, oedd creu naw perllan gymunedol newydd ledled y fwrdeistref. Cafodd grŵp perllannau cymunedol ei sefydlu i reoli’r rhain. Gwnaethant hefyd ddarparu coed ffrwythau newydd i aelodau o’r cyhoedd ar gyfer eu gerddi neu randiroedd.

Er mwyn cynyddu bioamrywiaeth ar hen laswelltiroedd amwynder a mannau heb lawer o bryder cadwriaethol, cytunwyd i osod naw perllan gymunedol newydd. Byddai’r perllannau hyn yn cynnwys plannu hadau blodau gwyllt o dan y coed, creu cloddiau a gosod cartrefi trychfilod/pryfed peillio er mwyn cefnogi bioamrywiaeth ehangach y safle.

O’r naw safle a nodwyd, roedd pump ohonynt yn eiddo i Gymdeithas Tai Tai Calon tri yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a’r safle olaf wedi’i rannu rhwng Tai Calon a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Roedd pob un ohonynt yn cael eu rheoli fel glaswelltir amwynder - yn cael eu torri’n rheolaidd a heb fawr iawn o amrywiaeth. Roedd gan rai goed mawr arnynt ac roedd angen cadw’r rhain.

Mae wyth o’r perllannau wedi ffynnu’n dda a heb gael unrhyw niwed. Ar un safle, mae rhai o’r coed ifanc wedi’u codi o’r ddaear mewn achos o fandaliaeth,ond mae’r rhain wedi’u hail-blannu nawr.

Cafodd nifer o goed ffrwythau hefyd eu dosbarthu i grwpiau cymunedol, rhandiroedd ac aelodau o’r cyhoedd.

Mae gwirfoddolwyr sy’n rhan o’r grŵp perllannau cymunedol wedi cael hyfforddiant ar reoli coed ffrwythau a rheoli perllannau er mwyn cynnal a chadw’r perllannau newydd wrth fynd ymlaen.

Cafwyd rhai heriau. Bu’n anodd cael caniatadau tir ar gyfer LNP Blaenau Gwent gan fod llawer yn cael eu rheoli ar gyfer man gwyrdd amwynder, a chafwyd rhai ymholiadau ynghylch newid y defnydd o’r tir a’i reolaeth yn y dyfodol. Trwy sefydlu’r grŵp perllannau cymunedol, maen nhw wedi datrys y problemau hyn.

Roedd ystadau Tai Calon yn poeni ynghylch gwrthwynebiadau gan drigolion, ond ar ôl i dîm daear Tai Calon ymhél ychydig â’r gymuned, ni chafwyd unrhyw broblemau.

Mae rhywfaint o gamwybodaeth yn bodoli ynghylch creu perllannau cymunedol yn yr ardal, yn bennaf o ran llygod mawr a phryfetach yn cael eu denu gan y ffrwythau dros ben. Roedd gwneud yn siŵr bod y grŵp perllannau cymunedol yn cael eu sefydlu i helpu i reoli’r coed a chasglu’r ffrwythau dros ben i gael eu prosesu yn dyngedfennol i gael cefnogaeth y cyhoedd. Bu gwaith cymunedol ar lawr gwlad yn effeithiol iawn o ran hyrwyddo budd perllannau cymunedol.

Mae’r grŵp perllannau cymunedol yn cynnwys gwirfoddolwyr o nifer o grwpiau cymunedol, yn bennaf cwmni buddiant cymunedol (CIC) Coetiroedd Bryn Sirhywi,mudiad arweiniol y grŵp. Heb waith caled y grwpiau hyn, ni fyddai’r prosiect perllannau wedi bod mor llwyddiannus.

Wrth fynd ymlaen, bydd y grŵp yn rheoli’r coed ffrwythau mewn modd cynaliadwy. Mae gan goetiroedd Sirhywi lawer o’r offer sydd eu hangen i brosesu’r ffrwythau dros ben. Maen nhw’n gwerthu’r rhain i’r cyhoedd, sy’n golygu bod costau rheoli’r safleoedd hyn yn cael eu talu amdanynt gan yr incwm a geir o werthu’r sudd ffrwythau.

Bydd pawb sy’n byw a gweithio yn ardal gyfagos y perllannau newydd hyn yn elwa ar dirwedd well o’u hamgylch. Wrth i’r coed aeddfedu, byddant yn dwyn ffrwyth i’r gymuned ac yn rhoi cysgod yn ystod y misoedd poethach.

2026 LNP Cymruwebsite by WiSS