English

Prosiectau LNP yn gwarchod ecosystemau lleol

Os ydyn ni eisiau denu a gwarchod peillyddion a mathau eraill o fywyd gwyllt, mae angen i ni greu’r cyflyrau cywir iddyn nhw ffynnu. Un ffordd o wneud hyn yw drwy greu dolydd blodau gwyllt a choetiroedd newydd sy’n rhoi bwyd a lloches mawr eu hangen iddyn nhw.

Ond yn y môr o fomiau hadau a choedwigaeth sydd newydd eu ffurfio, mae’n bwysig nad ydyn ni’n anghofio am y natur sydd gennym ni eisoes. Gall cyflwyno rhywogaethau estron o blanhigion i ardal newydd gael effaith negyddol ar rywogaethau lleol o blanhigion a bywyd gwyllt.

Dyma pam mae LNPs ar hyd a lled Cymru yn rhedeg prosiectau a gyllidir gan Leoedd Lleol ar gyfer Natur (LPfN) sy’n datblygu cronfeydd o hadau brodorol - fel eu bod yn gweithio gyda’u hecosystemau lleol yn hytrach nag yn eu herbyn.

Ystyriwch beiriant medi hadau a threlar LNP Bannau Brycheiniog a gyllidwyd gan LPfN. Gall eu peiriant newydd deithio ar draws tiroedd amrywiol y parc, yn casglu hadau blodau gwyllt i’w plannu mewn rhannau eraill o’r parc.

‘Rydyn ni wedi bod yn darparu hadau a gasglwyd i nifer o safleoedd adfer, gan gynnwys Craig y Fan Ddu, Pen Trumau a Waun Fach,’ eglura’r Swyddog Prosiect, Sam Ridge. ‘Wrth i raddfa’r gwaith o adfer mawndir gynyddu, felly hefyd mae’r galw. Rwy’n gobeithio y gallwn ni ddod o hyd i fwy fyth o safleoedd medi addas, gan gynyddu ei werth i’r eithaf mewn blynyddoedd i ddod.’

Neu i fyny yn Sir Ddinbych, lle mae’r LNP wedi defnyddio cyllid LPfN i sefydlu meithrinfa coed brodorol newydd. Bydd y feithrinfa goed yn cynnig coed brodorol i grwpiau cymunedol am ddim, ac yn cynnal hyfforddiant a digwyddiadau gwirfoddolwyr i ymhél pobl â natur a gwneud yn siŵr eu bod yn deall goblygiadau plannu.

Bydd y safle hefyd yn cynnwys cyfleusterau i dyfu planhigion blodau gwyllt brodorol, gan ehangu ar y cydweithio llwyddiannus â’r Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.

Bydd yr holl blanhigion a gynhyrchir ar y safle yn cael eu defnyddio i wella’r dolydd blodau gwyllt sy’n cael eu rheoli ledled Sir Ddinbych ar hyn o bryd, gan ddod â natur yn agosach at y gymuned leol. Mae 45 erw o ddolydd blodau gwyllt yn cael eu rheoli ar gyfer byd natur ar hyn o bryd – a phob un ohonyn nhw’n defnyddio peiriannau a gyllidwyd gan LPfN.

Mae’r prosiectau uchod yn dangos ei fod yn bosibl cyrraedd targedau plannu wrth wneud yn siŵr nad ydyn ni’n cael effaith niweidiol ar ein bywyd gwyllt lleol. Wrth gwrs, mae angen i ni fod yn plannu gymaint â phosibl, nid dim ond er mwyn stopio ein natur rhag dirywio, ond hefyd er mwyn stopio’r hinsawdd sy’n newid yn gyflym.

Ond yn y ras i greu mannau gwyrdd newydd, mae cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn sicrhau nad yw ein hymgyrch blannu newydd yn achosi problemau i’r natur sydd gennym ni ar ôl.

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS