Yr Wythnos Natur Cymru hon, rydyn ni’n amlygu pwysigrwydd natur ar iechyd meddwl a llesiant. Gwnaeth Emma a Keisha o Gyngor Trydydd Sector Caerdydd gyfweld â Louise o SRCDC (Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon) i drafod y Prosiect Tyfu Gyda’n Gilydd ac effeithiau cadarnhaol gwirfoddoli amgylcheddol yng Nghaerdydd ar iechyd meddwl a llesiant.
Beth yw’r Prosiect Tyfu Gyda’n Gilydd?
Mae’r Prosiect Tyfu Gyda’n Gilydd yn brosiect 18 mis o hyd a gyllidir tan fis Hydref 2021 gan Gronfa Gymunedol y Dreth Dirlenwi. Nod y prosiect yw gwneud Glan yr Afon yn fwy gwyrdd, gan gynyddu sgiliau trigolion, gan gynnwys plant, ac ennyn diddordeb mewn bioamrywiaeth.
Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol yn y prosiect, a bellach mae mwy na 100 o aelodau ar y grŵp Whatsapp, ‘Growing in Riverside’. Maen nhw’n sicrhau y gall y prosiect redeg yn ddiffwdan drwy gasglu planhigion a phridd a thrwy helpu i gynnal a chadw planwyr o amgylch Glan yr Afon.
O Bandemig i Blannu
Gwnaeth y pandemig ddeffro diddordeb cymuned Glan yr Afon mewn tyfu bwyd a phlanhigion gartref. Gwnaeth Prosiect Tyfu Gyda’n Gilydd ddarparu dysgu anffurfiol ar-lein i gyd-fynd â’r diddordeb hwn, gan gefnogi llawer o aelwydydd yng Nglan yr Afon a oedd yn tyfu planhigion am y tro cyntaf.
Gerddi blaen a chefn yw’r mannau mwyaf yn Ne Glan yr Afon, felly targedwyd y mannau hyn i gynyddu bioamrywiaeth trwy addysg gymunedol. Gwnaeth yr holl gymuned gymryd rhan, gan gynnwys Ajwa, 9 oed, a berswadiodd ei thad i’w helpu hi i gymryd rhan yn Tyfu Gyda’n Gilydd drwy dyfu hadau blodau gwyllt yn eu gardd blaen i ddenu peillwyr.
Mae Louise wrth ei bodd â chymaint o bobl a fynegodd ddiddordeb ac awydd i ddysgu mwy am y bywyd gwyllt o’u hamgylch, a chlywodd sgyrsiau am adar, nadroedd defaid a llwynogod. Mae’r prosiect hyd yn oed wedi cysylltu â thyfwyr cymunedol eraill i ffurfio rhwydwaith ledled Caerdydd o’r enw ‘Edible Cardiff’.
Mae cymorth gan y planhigfeydd a redir gan y cyngor ym Mharc Bute hefyd wedi hybu eu heffaith drwy ddarparu planhigion y gellir eu bwyta ar gyfer y prosiectau tyfu cymunedol ledled Caerdydd.
Mae Natur yn Cynnal
Yn ystod y cyfnod clo, dywedodd llawer o wirfoddolwyr fod dysgu sut i dyfu bwyd yn weithgaredd pwysig i’r holl deulu, yn aml yn cysylltu cenedlaethau o fewn aelwydydd ac yn rhoi modd i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd.
Er enghraifft, gwnaeth mam-guod a thad-cuod basio sgiliau ymarferol roedden nhw wedi’u dysgu pan oedden nhw’n blant ymlaen i’r genhedlaeth iau. Cafodd Glan yr Afon ei effeithio’n wael gan COVID-19 oherwydd ei aelwydydd gorlawn, aml-genhedlaeth, felly gwnaeth y prosiect roi dihangfa fawr ei hangen iddynt.
Daeth tyfu bwyd yn ffordd o gysylltu teuluoedd a rheoli iechyd meddwl mewn cyfnod arbennig o anodd. Mae gwirfoddolwyr wedi mynegi cymaint y mae tyfu wedi bod o fudd i’w hiechyd meddwl drwy roi rhywbeth iddyn nhw ganolbwyntio arno mewn adegau anodd.
I rai gwirfoddolwyr, mae’r prosiect wedi bod yn garreg sarn i gyfleoedd eraill. Er enghraifft, mae un gwirfoddolwr sydd bellach wedi'i gyflogi yn arwain Gŵyl Dyfu’r Gwanwyn yng Nghaerdydd. Mae Louise yn gobeithio y gall Tyfu Caerdydd hefyd ddarparu cyfleoedd cyflogaeth pellach.
Dyfodol Gwirfoddoli Amgylcheddol Trefol
Wrth siarad am y gymuned leol, dywedodd Louise, ‘Nhw yw’r bobl sy’n gwneud y prosiect yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus’. Pwysleisiodd fod cymunedau trefol yn canolbwyntio’n bennaf yn eu hamgylchedd lleol a dylai penderfyniadau cynllunio am yr amgylchedd gael eu harwain gan bobl leol.
Amlygodd bwysigrwydd cydweithio gyda phrosiectau amgylcheddol ehangach er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth leol yn uno ag arbenigwyr natur.
I gael diweddariadau ar y Prosiect Tyfu Gyda’n Gilydd, dilynwch nhw ar Twitter a Facebook.
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS