English

Wythnos Natur Cymru 2021

Diolch o waelod calon i bawb a gymerodd ran yn Wythnos Natur Cymru 2021!

Wythnos Natur Cymru! 29 Mai – 6 Mehefin 2021

Dathlu byd natur yn ystod Wythnos Natur Cymru!

Mae Wythnos Natur Cymru ar y gorwel! Dyma ddathliad blynyddol o fyd natur sy'n cynnwys cynefinoedd a rhywogaethau gwych Cymru.

Bydd ein cyfres o rith-ddigwyddiadau’n cychwyn gan groesawu’n ôl y BioBlitz Gerddi - gallwch gymryd rhan ledled Cymru drwy sylwi ar ymwelwyr a phreswylwyr byd natur yn eich gardd, a’u rhannu. Bydd awgrymiadau a chymorth defnyddiol gan ein cymuned o arbenigwyr yn sicrhau eich bod yn cael hwyl wrth gymryd rhan, ynghyd â gwybodaeth ddifyr.

Mae'r dathlu’n parhau gan ganolbwyntio bob dydd ar fathau o gynefinoedd a'r rhywogaethau maent yn eu cynnal. Dyma gyfle gwych, a gyflwynir gan Bartneriaethau Natur Lleol yng Nghymru, i ddarganfod byd natur ar eich stepen drws, gan ddysgu pwy sy'n byw yno a sut y gallwch helpu byd natur drwy bartneru â’ch Partneriaeth Natur Leol- mae un ym mhob cwr o Gymru!

Cadwch lygad ar y dudalen hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf

Dewch o hyd i’ch ysbrydoliaeth o ran natur yng Nghymru, rhannwch eich storïau, a phrofwch a mwynhewch fyd natur!


Oherwydd cyfyngiadau parhaus sy'n deillio o bandemig COVID-19, rydym yn bwriadu cynnal rhith-ddigwyddiadau ledled Cymru yn ystod Wythnos Natur Cymru

Amserlen Digwyddiadau

29 Mai BioBlitz Gerddi gyda Chanolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru

Dathlwch ddechrau Wythnos Natur Cymru ac ymunwch â chofodwyr bywyd gwyllt i nodi rhywogaethau yn eich gardd! Helpwch ni i greu cipolwg cenedlae-thol ar fywyd gwyllt rhyfeddol Cymru a darganfod y byd natur ar garreg eich drws. Digwyddiad rhyngweithiol difyr y gall pob aelod o'r teulu ei fwynhau! Addas ar gyfer dechreuwyr llwyr a selogion natur fel ei gilydd.

Dolen digwyddiad

Adnoddau a Gweithgareddau
Fideo - canllawiau ar gyfer cofnodi rhywogaethau wrth grwydro
Garddio er lles bywyd gwyllt
buglife.org.uk/gardening for Bugs
RSPB: 20 easy ways to give wildlife a home
Pa ystlum yw hwn? (canllaw ar y we)
Anifeiliaid a Chynefinoedd -Gweithgareddau a Gemau (CNC canllaw ar y we)

Gellir gweld rhestr lawn o ddigwyddiadau yma


Thema'r dydd ar 30 Mai: Coed a Choetiroedd
Diwrnod yn arbennig ar gyfer ein coetiroedd, gwrychoedd a choed stryd trefol. Yn cynnwys:

  • 10:00 Cyflwyniad i'r diwrnod (ffilm fer)
  • 10:00-10:30 Cyflwyno Prosiect LIFE Coedwigoedd Glaw Celtaidd gyda Julia Harrison. Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd
  • 11:00 Digwyddiad byw. Dosbarth adnabod coed. Ymunwch â Vee Brannovic i fynd am dro yng Nghoed Herbert ym Mhont-y-pŵl lle cewch gyngor i hogi'ch sgiliau adnabod coed. Vee yw cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen. (ffilm fer)
  • 11:30 Digwyddiad byw. Mân Greaduriaid y Coetir gyda Vee Brannovic, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen. Ffilm a gomisiynwyd ar gyfer Wythnos Natur Cymru.

Manylion i ddilyn am ddigwyddiadau a sut y gallwch gymryd rhan.

Gall manylion digwyddiadau newid.

Adnoddau a Gweithgareddau
Bywyd gwyllt y coetiroedd (canllaw ar y we)
Ap adnabod coed Woodland Trust
Adnoddau coed Woodland Trust ar gyfer Ysgolion a Theuluoedd
Coed brodorol Prydain
Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Cyflwyniad Coedwig Genedlaethol Cymru
Arolwg maes gwiwerod coch gyda Phrosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru (ffilm fer)
Arolwg maes gwiwerod coch gyda Phrosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru (ffilm fer)

Gellir gweld rhestr lawn o ddigwyddiadau yma


Thema'r dydd ar 31 Mai: Gwlyptiroedd
Dathlu ein gwlyptiroedd yng Nghymru! Yn cynnwys:

  • 10:00 Cyflwyniad i'r diwrnod (ffilm fer)
  • 10:30 Cors Magwyr - tirwedd, cynefinoedd a rhywogaethau (ffilm fer)
  • 11:00 Mursennod, gweision y neidr a bywyd gwyllt y pyllau yn llyn Syfaddan (ffilm fer)
  • 13:00 Ymunwch â Becky yng Ngwarchodfa Natur Dyffryn Distaw, Gwent a darganfyddwch y llu o greaduriaid sy'n ffynnu yn ein pyllau mawr a bach. Becky yw'r Swyddog Bioamrywiaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • 14:30 Tirwedd, cynefinoedd a rhywogaethau Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir (WWT) yng Ngwlyptiroedd Llanelli (ffilm fer)
  • 8pm Cwis Natur Mawr gyda Chanolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru
    Rhowch brawf ar eich gwybodaeth o fyd natur yn ystod Wythnos Natur Cymru, ac ymunwch â LERC Cymru am gwis tafarn rithiol! O ffeithiau am famaliaid i sut i adnabod malwod duon, faint ydych chi’n ei wybod am fywyd gwyllt gwych Cymru? Dim gwobrau, dim ond hawl i frolio! Dewch â’ch pen a phapur ac ewch ati i brofi eich gwybodaeth am fyd natur.
    Dolen digwyddiad

Manylion i ddilyn am ddigwyddiadau a sut y gallwch gymryd rhan. Digwyddiadau pellach i ddilyn.

Adnoddau a Gweithgareddau
Bywyd gwyllt y gwlyptiroedd
Cynefinoedd dŵr croyw
Ymlusgiaid ac amffibiaid

Arolwg
Mae arnon ni angen help i chwilio am fursennod coeswen yng ngorllewin Cymru! Mae'r rhywogaeth garismatig hon wedi'i thangofnodi yn y degawdau diwethaf ac rydyn ni am ymchwilio i weld a yw ei dosbarthiad wedi newid.

Gellir gweld rhestr lawn o ddigwyddiadau yma


Thema'r dydd ar 1 Mehefin: Dolydd/ Tir amaeth
Heddiw ein dolydd gwerthfawr sy’n mynd â’n sylw. Yn cynnwys:

  • 10:00 Cyflwyniad i'r diwrnod (ffilm fer)
  • 10:30 Digwyddiad byw. Mae dolydd ar eu gorau ym mis Mehefin. Ymunwch â Vee Brannovic am daith gerdded rithwir i chwilio am flodau a glaswelltau nodweddiadol ar hyd y ffordd. Vee yw cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen

Yn aml, mae gan laswelltiroedd amwynder ac ymylon ffyrdd flodau o ddiddordeb – maen nhw’n aml yn ddolydd bach ynddynt eu hunain. Efallai y byddwch chi’n lwcus ac y dewch chi o hyd i degeirian y wenynen! Rhannwch gyda ni unrhyw rywogaethau diddorol neu gyffredin a welwch drwy ein tagio #WythnosNaturCymru2021. Nodwch y lleoliad yn eich neges - mae hyn yn ein helpu i fapio ardaloedd newydd o gynefin dolydd.

  • Yddôl ym Mlaen Tir, gan Derek Cobley - YouTube (fideo byr) Yn y fideo a ffilmiwyd ar gyfer Grŵp Dolydd Sir Gaerfyrddin, mae Derek yn sôn am ei brofiadau o reoli dôl llawn blodau ger Llanymddyfri
  • 7:00pm-8:00 pm Dolydd y Tomenni Glo. Darganfyddwch yr infertebratau diddorol sy'n byw mewn cynefinoedd dolydd tomenni glo gyda Liam Olds o Buglife Cymru. Digwyddiad Zoom. Cysylltwch â PBC am fanylion mewngofnodi i ymuno â'r cyfarfod

Archwilio’r Dolydd

Cymerwch ran i Archwilio’r Dolydd yn ystod Wythnos Natur Cymru. Y nod yw chwilio dolydd a chofnodi'r rhywogaethau planhigion rydych chi'n dod o hyd iddyn nhw gan ddefnyddio rhestr ticio Archwilio’r Dolydd (Big Meadow Search). Mae’n agored i bawb - nid oes angen eich dôl eich hun arnoch chi (ond ceisiwch ganiatâd y tirfeddiannwr os ydych chi'n chwilio ar dir rhywun arall).

Oeddech chi'n gwybod bod y grŵp dolydd cyntaf yng Nghymru wedi'i ffurfio yn Sir Fynwy yn 2003 - mae grwpiau dolydd yn ymddangos ledled Cymru. Cysylltwch â Chydlynydd eich Partneriaeth Natur Leol i ddarganfod mwy.

Manylion i ddilyn am ddigwyddiadau a sut y gallwch gymryd rhan. Digwyddiadau pellach i ddilyn.

Adnoddau a Gweithgareddau

Diwrnod Gweithgareddau Bywyd Gwyllt Cymunedol
10:00-13:00 Eglwys St Julitta’s Capel Curig
Fel arfer mae mynwentydd yn lleoedd rhagorol ar gyfer natur – os ydych yng nghyffiniau Capel Curig beth am ymuno ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a mynd ar saffari bywyd gwyllt.

Manylion pellach
Canllaw adnabod sylfaenol ar gyfer blodau gwyllt (ffilm fer)
Sut i greu gweirglodd gyda blodau gwyllt brodorol
Creu dôl fach gyda Plantlife (ffilm fer)
Blwyddyn gyfan mewn dôl blodau gwyllt mewn dwy funud (ffilm fer)
Dôl Trevor Dines yng Ngogledd Cymru (ffilm fer)
Helfa Fawr Blodau Gwyllt Prydain
Gweminar PFLA a Plantlife: Adfer a chreu ardaloedd bach o ddolydd blodau gwyllt brodorol

Dathliadau Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd (3– 4 Gorffennaf)

Mae dathlu dolydd yn parhau drwy gydol yr haf. Bydd Gweirgloddiau Gwych Cymru yn cynnal rhai digwyddiadau ledled Cymru er mwyn dathlu dolydd. Diwrnodau hwyliog fydd y rhain gyda gwahanol weithgareddau gan gynnwys teithiau blodau a phryfed y weirglodd, arddangosiadau pladuro, ioga yn y dolydd a mwy! Canolfannau: 3 Gorffennaf – Parc Glantawe, Pontardawe a Llanddona, Ynys Môn, 4 Gorffennaf – Maenordy Scolton, Sir Benfro. Gwyliwch dudalen Facebook Plantlife Cymru i gael diweddariadau.

Gellir gweld rhestr lawn o ddigwyddiadau yma


Thema'r dydd ar 2 Mehefin: Mawndiroedd
Mae mawndiroedd yn gyffredin ledled Cymru - heddiw dysgwch fwy am gorsydd a gwernydd a'u pwysigrwydd i natur a chymdeithas. Yn cynnwys:

  • 10:00 Cyflwyniad i'r diwrnod (ffilm fer)
  • 12:00 Golwg o’r awyr o fawndiroedd Cors Goch gyda Bethan Wynne Jones a Rachel Harvey o Barc Cenedlaethol Eryri (ffilm fer). Yn y ffilm hon a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer Wythnos Natur Cymru, mae Bethan a Rachel yn disgrifio sut y ffurfir mawn a pham mae mawndiroedd yn gynefinoedd mor bwysig i fywyd gwyllt

Manylion i ddilyn am ddigwyddiadau a sut y gallwch gymryd rhan. Digwyddiadau pellach i ddilyn.

Adnoddau a Gweithgareddau
Gweithgareddau corsydd (adnodd dysgu ar y we)
Chwilair Mawndiroedd (adnodd dysgu ar y we)
Cigysyddion corstir
Fideo o waith adfer ar Gors Fochno
Fideo o waith adfer ar Gors Caron
Fideo prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE
Fy enw i yw PEAT!
Ysgolion Pentrefoelas ac Ysbyty Ifan yn amlygu pwysigrwydd gwarchod y mawndiroedd gyda'r rapiwr Ed Holden

Gellir gweld rhestr lawn o ddigwyddiadau yma


Thema'r dydd ar 3 Mehefin: Morol ac Arfordirol
Heddiw rydym yn canolbwyntio ar ein cynefinoedd arfordirol a morol trawiadol. Yn cynnwys:
  • 10:00Cyflwyniad i'r diwrnod (ffilm fer)
  • 10:30 Prosiect Twyni Byw gyda Laura Bowen – diogelu cynefinoedd twyni tywod gwerthfawr yng Nghymru Ffilm a gomisiynwyd ar gyfer Wythnos Natur Cymru (ffilm fer)
  • 10-12 Sgwrs Ryngweithiol Ar-lein Egin Fiolegwyr Morol gyda Sefydliad Sea Watch
    Dewch yn 'Egin Fiolegydd Morol' a'n helpu i ddathlu Byd Dyfrllyd Cymru! 7+ oed

  • Chwilio pyllau glan môr ar gyfer dechreuwyr Karen, Cydlynydd Partneriaeth Natur Lleol Abertawe (ffilm fer)
  • 2-3 pm o’r Tir yn Fyw gyda Sefydliad Sea Watch!
    Ymunwch â ni wrth i ni edrych allan a gobeithio gweld rhai o'n dolffiniaid trwyn potel lled-breswyl o Fae Cei Newydd wrth esbonio Technegau Ymchwil a Monitro Sea

Manylion i ddilyn am ddigwyddiadau a sut y gallwch gymryd rhan. Digwyddiadau pellach i ddilyn.

Adnoddau a Gweithgareddau
Archwiliwch ryfeddodau pwll glan môr (canllaw ar y we)
Canllaw i Chwilio Pyllau Glan Môr (canllaw ar y we)
MCS Hwyl a dysgu (canllaw ar y we)
Ysgol 2 Funud y Traeth!
Natura 2000 – Moroedd Ffyniannus
Bywyd morol yn nyfroedd arfordirol Pen Llŷn

Gellir gweld rhestr lawn o ddigwyddiadau yma


Thema'r dydd ar 4 Mehefin: Trefol

  • 10:00 Cyflwyniad i'r diwrnod (ffilm fer)
  • 10:30 Saffari drefol yn archwilio cynefinoedd trefol yng nghyffiniau Cwmbrân wedi’i ffilmio ar gyfer Wythnos Natur Cymru 2021
  • Waliau gwyrdd (ffilm fer)

Mae waliau gwyrdd yn ffordd wych o ddod â natur i ardaloedd adeiledig. Yn ogystal â darparu cartref i fywyd gwyllt, maen nhw’n helpu i gael gwared ar lygredd o'r aer, yn amsugno carbon a dŵr ac yn edrych yn ddymunol. Yn y ffilm fer hon a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer Wythnos Natur Cymru, cawn glywed y diweddaraf ar brosiect wal werdd yng Nghaerdydd.

Manylion i ddilyn am ddigwyddiadau a sut y gallwch gymryd rhan. Digwyddiadau pellach i ddilyn.

Adnoddau a Gweithgareddau

Creu pwll bywyd gwyllt bach (ffilm fer)
Ble i weld bywyd gwyllt trefol (ffilm fer)
Ble i weld bywyd gwyllt trefol (golwg fanwl)
Creu pwll bywyd gwyllt bach (golwg fanwl)

Gellir gweld rhestr lawn o ddigwyddiadau yma


Thema'r dydd ar 5 Mehefin: Arddangos Partneriaethau Natur Lleol
Dathlu Prosiectau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ledled Cymru! Mae Partneriaethau Natur Lleol yn weithgar ledled Cymru - heddiw rydym yn arddangos eu gwaith a sut y gallwch gymryd rhan wrth roi hwb i natur yn eich ardal leol! Cysylltwch â'ch Partneriaeth Natur Leol heddiw!

Cadwch olwg am ffeithluniau, mapiau a gwybodaeth arall y byddwn yn ei rhannu gyda chi ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol

Adnoddau a Gweithgareddau

Prosiect Partneriaeth Natur Lleol Cymru

7pm Gweithdy Adnabod Ystlumod ‘Defnyddio Eich Clustiau’ - mae ffioedd yn berthnasol

Gellir gweld rhestr lawn o ddigwyddiadau yma


6 Mehefin: Thema'r dydd: Lles a natur
Ac ymlaciwch! Mae natur yn wych i'n lles. Byddwn yn rhannu awgrymiadau i’ch helpu chi i ymlacio a chael eich hysbrydoli gan natur a'n mannau gwyrdd.

3pm Myfyrdod â’r pum synnwyr gyda Judith Parry, Valleys Steps. Mae Judith Perry o Valleys Steps yn ein helpu i ymlacio a chysylltu â'n pum synnwyr yn y fideo yma ar gyfer diwrnod Lles a Natur. Digwyddiad Facebook
Dolen i’r digwyddiad.

Adnoddau a Gweithgareddau
Cysylltu â natur i wella eich iechyd meddwl
Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl – podlediadau, blogiau a fideos
Natur: Sut mae cysylltu â natur o fudd i'n hiechyd meddwl
Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl - Dyddiadur Natur
Myfyrdod â’r pum synnwyr (canllaw ar y we)
Iechyd a lles yn yr awyr agored (canllaw ar y we)
Shinrin-yoku (canllaw ar y we)

Gellir gweld rhestr lawn o ddigwyddiadau yma

Comma - Vee Brannovic

Digwyddiadau

Eleni mae Wythnos Natur Cymru’n digwydd ar yr un pryd â’r canlynol - mwy fyth o reswm i ddathlu bywyd gwyllt Cymru!

Digwyddiadau Wythnos Natur Cymru Digwyddiadau Wythnos Natur Cymru Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Canolfan y Dechnoleg Amgen -Gweithgareddau Teulu

30 Diwrnod Gwyllt: 1 -30 Mehefin

Springwatch: 26 Mai - 12 Mehefin

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS