English

Gwirfoddoli

Ymunwch â grŵp gwirfoddoli amgylcheddol lleol.

Mae ein LNPs yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddolwyr ledled Cymru. O fudiadau elusennol mawr fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RSPB ac Ymddiriedolaethau Natur, i grwpiau cymunedol llai a busnesau lleol, mae rhwydwaith LNP yn cefnogi unrhyw un a phawb sy'n ymroddedig i adferiad byd natur.

Mae cymaint o wahanol ffyrdd y gallwch wirfoddoli, wedi'u teilwra i'ch sgiliau, eich diddordebau a'ch amgylchiadau chi. Gallwch roi cymaint neu gyn lleied o amser ag yr hoffwch, oherwydd fe werthfawrogir unrhyw swm o amser a roddwch i weithredu dros fyd natur yn fawr iawn a bydd o gymorth mawr wrth helpu'r gwaith hanfodol o adfer byd natur.

Mae gwirfoddoli hefyd yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, mwynhau'r awyr agored, dysgu sgiliau newydd, sylwi ar a gwerthfawrogi bywyd gwyllt, gwella bioamrywiaeth a chadw'n heini. Os ydych chi'n chwilio am yrfa mewn cadwraeth, gall gwirfoddoli helpu i wella'ch CV ac ennill y sgiliau angenrheidiol hynny.

I ganfod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli, cysylltwch â'ch LNP am fanylion grwpiau yn eich ardal.

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS