Canlyniadau'r Prosiect
Sefydlu rhwydwaith fywiog ac effeithlon o Bartneriaethau Natur Lleol (LNPau) ledled Cymru
- Bydd y rhwydwaith LNP yn rhannu dysgu er mwyn gwneud y mwyaf o arfer dda ac effaith
- Bydd nifer ac amrywiaeth cynyddol o bartneriaid o fewn LNPau yn cyfrannu tuag at adferiad byd natur trwy eu cynlluniau darparu a'u prosiectau
Datblygu Cynlluniau Adfer Byd Natur (NRAPau) ym mhob ardal Awdurdod Lleol (ALl) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol (APC)
- Bydd ystod eang o gyfranogwyr yn cael eu cefnogi er mwyn cyfrannu at NRAPau yn unol ag egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR)
Adeiladu'r sylfaen dystiolaeth
- Bydd y prosiect LNP yn darparu adroddiadau anogol yn seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn â gwerth adfer byd natur
- Bydd mwy o weithredu effeithlon wedi'i dargedu ar gyfer NRAPau lleol
Cynddu gweithredu lleol
- Bydd pob LNP yn sicrhau bod mwy o fudiadau a phobl leol yn ymwybodol o faint a rôl byd natur yn eu hardal leol
- Bydd caffael mwy o wybodaeth sy'n hygyrch ac wedi'i dargedu'n lleol yn bwydo gwell penderfyniadau ac yn ysbrydoli newidiadau mewn ymddygiad
- Trwy weithio gyda'n gilydd, bydd mwy o bobl yn gallu cael mynediad i weithgareddau byd natur, cyfrannu atynt ac elwa ohonynt
Cefnogi a dylanwadu
- Bydd prosiect LNP yn dadlau dros weithrediad gwell, mwy effeithlon gan gyrff cyhoeddus o amcanion polisïau adfer byd natur
- Bydd yr LNPau yn annog gwell ymrwymiad a pherchnogaeth cymunedol o weithgareddau adfer byd natur
Olyniaeth
- Bydd mwy o fudiadau'n gweld y budd o fuddosoddi mewn LNPau er mwyn darparu buddion lluosog
- Bydd gan brosiect LNP Cymru waddol gynaliadwy