Mae eich LNP mor frwd am fyd natur â chithau. Beth am ymuno â ni i gael gwybod mwy?
Ymgysylltwch â, cymerwch ran mewn neu, mewn rhai achosion, ymunwch â'ch LNP er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru gyfoethog o ran ei bywyd gwyllt i bawb.
Mae eich Partneriaeth Natur Lleol yn 'stop un siop' o arbenigedd byd natur, prosiectau natur a gweithgareddau a gynhelir yn eich ardal.
Eisiau derbyn diweddariadau ynglŷn â'r wybodaeth a'r cyfleoedd bioamrywiaeth diweddaraf yn eich ardal? Ymunwch â rhestr bostio eich LNP er mwyn derbyn diweddariadau rheolaidd. Cysylltwch â'ch LNP i gael gwybod sut i ymuno.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch LNP, os hoffech gefnogi'ch LNP neu hyd yn oed gyflwyno syniadau am brosiectau, cysylltwch â'ch LNP i drafod hynny.
Mae'r LNPs yn arbenigwyr yn eu maes o safbwynt ehangu ar a gwarchod bioamrywiaeth. Golyga hyn y gallent ddarparu cyngor, cefnogaeth ac arweiniad arbenigol i'ch helpu i ddatblygu syniad am brosiect. Maen nhw hefyd yn ymwybodol o brosiectau eraill sy'n cael eu cynnal yn y gymuned lle rydych chi'n byw, felly gallent eich cysylltu â phobl eraill a allai fod o gymorth.
Os credwch y gallech chi neu'ch mudiad elwa o gyngor arbenigol ar fioamrywiaeth, gallai'r LNPs gyflwyno sgyrsiau a chyflwyniadau a chynnal ymweliadau safle i'ch cefnogi i wireddu'ch ymroddiad i adferiad byd natur.
Mae gan nifer o LNPs gyfleoedd aelodaeth. Os carech chi gymryd cam pellach i helpu i lywio gweithredu lleol dros fyd natur gallwch ymuno â'ch partneriaeth a dod yn aelod.
Mae aelodaeth am ddim, nid oes rhaid talu na thanysgrifio.
Fel aelod, byddwch yn mynychu cyfarfodydd, yn derbyn diweddariadau rheolaidd ac mewn rhai achosion yn cymryd rhan mewn grwpiau gorchwyl a gorffen er mwyn cyfawni pethau. Mae'n ffordd wych o gyfrannu tuag at ddatblygiad eich LNP a'i nodau a'i uchelgeisiau, gan sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei ehangu a byd natur yn cael ei warchod nawr ac yn y dyfodol.
Cysylltwch â'ch LNP i ddarganfod mwy.
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS