English

Dewch i gwrdd â’r tîm

Ceir LNP ym mhob ardal ledled Cymru, pob un wedi'i leoli'n unigryw er mwyn darparu gweithredu effeithlon ar lefel leol a chyfrannu tuag at yr agenda adfywio byd natur cenedlaethol. Dewch o hyd i'ch Partneriaeth Natur Lleol yma.

Mae gan bob LNP gydlynydd sy'n lletya gyda'r Awdurdod Lleol neu'r Awdurodod Parc Cenedlaethol yn eu hardal. Mae pob un yn gyfrifol am ddatblygu a darparu gweithgareddau, yn ogystal â monitro a pherfformiad.

Os oes gennych ymholiadau cyffredinol ynglŷn â'r prosiect cysylltwch â ni fan hyn, os gwelwch yn dda.

Chris Lazo - LNP Cymru Project Manager, WCVA

Chris Lazo

Rheolwr Prosiect Partneriaethau Natur Lleol (LNP) Cymru, CGGC
Mae Chris wedi bod yn rheoli'r prosiect ers dechrau 2020. Prif ddyletwyddau ei rôl yw sicrhau bod y prosiect fel cyfanwaith yn cyflawni ei amcanion ac yn parhau ar y trywydd cywir. Mae'n goruchwylio'r Grŵp Cynghori a'r Bwrdd Prosiect, ac yn adodd i'n cyllidwyr yn Llywodraeth Cymru.

Ben Jewell - Swyddog Cymorth Partneriaethau Natur Lleol (LNP) Cymru, CGGC

Ben Jewell

Swyddog Cymorth Partneriaethau Natur Lleol (LNP) Cymru, CGGC

Ymunodd Ben â'r tîm ar ddiwedd mis Mawrth 2020. Gweithia'n agos â'r tîm a'n holl bartneriaid er mwyn sicrhau ein bod yn rheoli'r cyllidebau'n effeithlon a'n bod yn cyflawni gofynion adrodd yn ôl a chyfrifo ein cyllidwyr. Mae Ben hefyd yn cefnogi'r tîm a'r partneriaid gyda materion gweinyddol.

Adam Rowe

Adam Rowe

Cyfarwyddwr, Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Cymru Cyf (LERC Wales/ CCALl Cymru)

Mae Adam wedi gweithio mewn CCALlau yng Nghymru ers 20 mlynedd a bu hefyd ynghlwm ym mhrosiect LNP Cymru o'r cychwyn, wedi'i yrru gan yr awydd i gadarnhau a datblygu rôl y CCALlau o fewn y Partneriaethau Natur Lleol ledled Cymru. Ei rôl yw cydlynu'u mewnbwn i'r prosiect, datblygu a darparu hyfforddiant wedi'i deilwra, a chyflewni prosiectau peilot wedi'u gyrru gan dystiolaeth er mwyn ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth mewn NRAPau lleol.

Holly Dillon - Cydlynydd LNP Powys

Holly Dillon

Cydlynydd LNP Powys
Dyma Holly a hi yw Cydlynydd LNP Powys. Mae gan Holly BSc mewn Bioleg Cadwraeth ac MSc mewn Cadwraeth Bywyd Gwyllt Uwch. Mae hi wedi cael gyrfa amrywiol hyd yn hyn, o gyfri’r Palod ar Ynys Sgomer ac astudio trychfilod yng nghoedwigoedd glaw Borneo i greu gerddi bywyd gwyllt a chynnal cyrsiau adnabod bywyd gwyllt a digwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru

Sean McHugh

Sean McHugh

Tîm Cefnogi Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru
Mae Sean wedi bod ynghlwm â phrosiect LNP Cymru ers iddo gychwyn cael ei ddatblygu a gweithiodd yn galed i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cam Cyflawni. Ef yw'r arweinydd strategol ar gyfer holl weithgareddau'r prosiect ac mae'n darparu cyswllt glir â pholisïau perthnasol gan gynnwys Cynllun Adfer Natur Cymru (NRAP) a Deddf yr Amgylchedd a'i offerynnau.

2023 LNP Cymruwebsite by WiSS