English

Amdanom ni

Beth yw'r prosiect LNP?

Nod prosiect LNP Cymru yw adeiladu rhwydwaith adfer natur ar draws Cymru, gan ymgysylltu â phobl a chymunedau, busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau mewn camau ymarferol a chynlluniau strategol ar gyfer Cymru iach, wydn a chyfoethog o ran ei natur.

Mae hwn yn gynllun parhaus wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gydlynu gan CGGC. Mae'r bartneriaeth yn cynnwys pob awdurdod lleol a pharc cenedlaethol yng Nghymru, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, CGGC a'r Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (CCALl).

Amdanom-ni

Llun gan Richard Bell

  • Rhwydwaith Cymru-gyfan ydyn ni sy'n gweithio dros adferiad byd natur.
  • Rydyn ni'n grwpiau amgylcheddol, busnesau, cymunedau, cyrff cyhoeddus a dinasyddion.
  • Prosiect 3 blynedd wedi'i gydlynu gan CGGC ydyn ni a byddwn yn rhedeg tan fis Ebrill 2022.
  • Rydyn ni'n rhan o'r ymdrechion i wneud Cymru'n wlad gyfoethog o ran ei natur sy'n cefnogi lles y genedl.

Beth rydyn ni'n ei wneud

llun gan Sean McHugh

  • Creu prosiectau newydd wedi'u lleoli ym myd natur mewn cymunedau ledled Cymru.
  • Datblygu cynlluniau natur lleol er mwyn bwydo a thargedu gweithredu.
  • Cydweithio er mwyn datblygu a chyflenwi prosiectau ar gyfer iechyd byd natur a lles y genedl.
  • Darparu cyfleoedd i wirfoddolwyr ddatblygu sgiliau.
  • Creu cysylltiadau â sefydliadau partner a sectorau eraill er mwyn cyrraedd mor bell â phosibl.

Sut y byddwn yn ei wneud

llun gan Sean McHugh

  • Ymgorffori adferiad byd natur trwy rannu sgiliau a dulliau gweithredu.
  • Gweithio gyda chi er mwyn cynorthwyo i ddatblygu partneriaethau mwy amrywiol.
  • Harneisio adnoddau cyfunol cymunedau a gwirfoddolwyr er mwyn gweithredu dros fyd natur.
  • Cynyddu'r nifer o gofnodion biolegol ym mhob ardal er mwyn bwydo gwybodaeth ar gyfer blaenoriaethau adfer byd natur.

Llun gan Jon Brentall

Ein Cenhadaeth yw ailgysylltu pobl â byd natur i sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu a’i feithrin nawr ac yn y dyfodol

llun gan Sean McHugh

Ein Gweledigaeth yw Cymru gyfoethog o ran ei natur i bawb

Ceir LNP ym mhob ardal ledled Cymru, pob un wedi'i leoli'n unigryw er mwyn darparu gweithredu effeithlon ar lefel leol a chyfrannu tuag at yr agenda adfywio byd natur cenedlaethol. Dewch o hyd i'ch Partneriaeth Natur Lleol yma.

Mae pob LNP yn gyfrifol am gydlynu, hyrwyddo a chofnodi am weithrediadau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes sy'n diogelu, hyrwyddo ac ehangu ar fyd natur yn eu hardal. Mae hyn yn cynnwys chwarae rhan mewn:

  • Cynllunio a datblygu polisi;
  • Rhwydweithio a rhannu arferion gorau;
  • Prosiectau cadwraeth ymarferol;
  • Adrodd yn ôl; ac,
  • Addysg a codi ymwybyddiaeth.

Rydym am wneud newid hir-dymor, cynaliadwy i atal a gwrthdroi dirywiad yr amgylchedd naturiol. Gobeithiwn y gallwn, trwy harneisio adnoddau cyfunol cymunedau, gwirfoddolwyr, cyrff cyhoeddus a busnesau, weithredu ar sail gwybodaeth a thystiolaeth o fewn ardaloedd ein hawdurdodau lleol neu barciau cenedlaethol.

Am fwy o wybodaeth neu i fod yn rhan o'r prosiect, cysylltwch â thîm y prosiect fan hyn neu dewch o hyd i ni ar Trydar @LNPCymru

CgGc Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru Llywodraeth Cymru Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cyfoeth Naturiol Cymru

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS