English

Mae’r tîm Partneriaethau Natur Lleol Cymru yn tyfu!

01/06/2021
Mae Partneriaethau Natur Lleol Cymru wedi croesawu dau aelod newydd o staff i’r tîm! Dewch i adnabod ein dechreuwyr newydd sef Danny a Monisah.

Danny Owen, Swyddog Effaith
Ymunodd Danny â’r tîm Partneriaethau Naturiol Lleol (LNP) ym mis Mai 2021. Mae’n gweithio gyda Chydlynwyr y Partneriaethau Naturiol Lleol a phartneriaid i helpu i ddangos yr effaith hanfodol y mae’r prosiect yn ei chael mewn cymunedau yng Nghymru – gan gasglu straeon a data sy’n bwydo i mewn i’n hadroddiadau i gyllidwyr yn ogystal â chyfrannu at ein cyfathrebu allanol.

Cyn ymuno â Phartneriaethau Natur Lleol, bu’n aelod o’r tîm cyfathrebu craidd yn CGGC ac mae’n angerddol am gyfathrebu rôl hanfodol y sector gwirfoddol ag ystod o gynulleidfaoedd.

Y tu allan i’r gwaith, mae Danny yn hoff iawn o gerddoriaeth ac mae’n dwlu ar recordio a pherfformio ei gerddoriaeth ei hun. Mae e’n rhugl yn y Gymraeg ac yn mwynhau darllen, rhedeg (yn araf), a garddio. Mae e’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am sector yr amgylchedd a’r hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod Cymru’n wyrddach ac yn llawn bywyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Monisah Ali, Swyddog Cymorth Cyfathrebu a Gweinyddu
Dechreuodd Monisah weithio gyda Phartneriaethau Naturiol Lleol Cymru ym mis Ebrill 2021. Mae ei rôl yn cynnwys hysbysebu, hyrwyddo, ac adrodd ar holl weithgareddau Partneriaethau Naturiol Lleol Cymru yn fewnol ac yn allanol. Mae hefyd yn darparu cymorth gweinyddol i’r tîm ac i’n partneriaid.

Arweiniodd ei gweithgarwch ym maes gwirfoddoli ieuenctid ati’n dilyn gyrfa yn y trydydd sector ac mae hi’n gyffrous am ei thaith gyda Phartneriaethau Natur Lleol.

Yn ei hamser rhydd, bydd Monisah naill ai ar ei sglefr-fwrdd, ar fat ioga, neu o flaen ei pheiriant gwnïo gan ychwanegu at ei dillad y mae’n eu gwneud ei hun. Mae hi’n gobeithio cael dealltwriaeth well o fuddion yr amgylchedd naturiol ar gyfer pobl a dod o hyd i ffyrdd creadigol o hyrwyddo gwaith Partneriaethau Natur Lleol Cymru ar draws Cymru.

Bellach, mae prosiect Partneriaethau Natur Lleol Cymru yn ei drydedd blwyddyn a bydd ein haelodau staff newydd yn cyfrannu at fonitro effaith y prosiect a chynaliadwyedd ei ddyfodol. Croeso cynnes i’r tîm iddyn nhw!

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS