English

Gwarchod Llyffantod Bryncoch

Castell-nedd Port Talbot LNP

Bob blwyddyn o gwmpas mis Mawrth, mae aelodau Grŵp Amgylchedd LNP Bryncoch allan bob nos yn ystod tymor ymfudo’r llyffantod yn achub llyffantod o’r ffyrdd wrth iddynt deithio i byllau bridio, ac maen nhw wedi bod yn gwneud hyn ers 2006.

Er eu bod yn cael eu cysylltu â dŵr, mae llyffantod ac amffibiaid eraill yn treulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn ar dir. Pan nad ydynt wrth y pyllau bridio, maen nhw wedi’u gwasgaru o amgylch yr ardaloedd gwledig cyfagos. Fodd bynnag, pan ddaw’r gwanwyn, mae’r llyffantod yn dychwelyd i’w pyllau silio yn eu heidiau. Mae’n well ganddyn nhw byllau dyfnach, mwy o faint na brogaod ac maen nhw’n eithaf ffyddlon i byllau silio arbennig. Golyga hyn bod yn rhaid iddynt deithio’n gymharol bell i’w cyrraedd, gan orfod croesi ffyrdd a datblygiadau i’w cyrraedd.

Un o’r problemau mwyaf y mae Grŵp Amgylchedd Bryncoch yn ei hwynebu yw’r nifer fawr o lyffantod sy’n syrthio i mewn i ffosdyllau draenio ar ochrau ffyrdd wrth ymfudo, ac ni all y llyffantod ddianc o’r rhain. O ganlyniad, mae llawer o amser y gwirfoddolwyr ar “batrôl llyffantod” yn cael ei dreulio’n codi’r caeadau oddi ar ffosdyllau a’u hachub gan ddefnyddio rhwydi pysgota. Maen nhw wedyn yn eu rhoi mewn bwcedi, gyda’r rhai a achubwyd ar y ffordd, ac yn mynd â nhw i lawr i’r pwll.

Er mwyn lleihau’r amser a oedd yn cael ei dreulio ar wirio pob ffosdwll, gwnaeth y grŵp gais i’r LNP am gyllid i brynu ‘ysgolion llyffantod’, sef strwythurau a ddyluniwyd yn benodol i eistedd yn y ffosdyllau a galluogi’r llyffantod i ddianc ar ôl cwympo i mewn iddynt.

Am ychydig o dan £250, llwyddodd yr LNP i brynu deng ysgol ar gyfer y grŵp, ac aeth y grŵp ati i’w gosod yn y ffosdyllau o amgylch Bryncoch. Gwnaeth hyn gymryd oddeutu 20 awr i gyd i’r gwirfoddolwyr a’r cydlynydd LNP, a oedd gyfwerth ag oddeutu £500 o gyllid cyfatebol. Gwnaethant hyn cyn i’r tymor ymfudo ddechrau yn 2020, gan ganiatáu iddynt weld yr ysgolion ar waith yn ystod y patrôl llyffantod y flwyddyn hon!

Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o beth all swm bychan o arian gan yr LNP ei wneud – drwy roi dim ond £250 i Grŵp Amgylchedd Bryncoch, bu modd iddynt ei ddefnyddio i gyflwyno mwy o amser ac arbenigedd a gwneud gwahaniaeth go iawn.

Rose Revera, Cydlynydd LNP, yn gosod ysgol lyffantod

Ysgol lyffantod wedi’i gosod

Llyffant dafadennog-  Laura Palmer

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS