English

Partneriaeth Natur Powys yn helpu i greu gardd synhwyraidd gymunedol

LNP Powys

Mae gardd a maes chwarae synhwyraidd newydd wedi’u datblygu ar gyfer cymunedau yn Nhal-y-bont a Threwern gyda help cyllid gan Bartneriaeth Natur Powys.

Cafodd y prosiect ar y cyd ei redeg gan Ysgol Buttington Trewern School, Cyngor Cymuned Trewern a’r ganolfan gymunedol yn Nhrewern i greu gardd a maes chwarae synhwyraidd cwbl gynhwysol, a fyddai’n cynnwys amrywiaeth o elfennau rhyngweithiol i ysgogi a denu’r synhwyrau.

Cyllidwyd yr ardd gan dri grant; Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan i dalu am gyfarpar chwarae synhwyraidd, grant adfer COVID i brynu’r hwyl gysgodi a grant gan Bartneriaeth Natur Powys i helpu i dalu am blanwyr, planhigion / hadau / bylbiau, casgen ddŵr a chyfarpar garddio.

Fiona Warburton ac Mike Bates

Cydlynwyd y prosiect gan y gwirfoddolwyr Fiona Warburton (Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Buttington Trewern) a Mike Bates (Llywodraethwr Ysgol) a weithiodd gyda gwirfoddolwyr lleol dros yr haf i greu’r ardd.

‘Rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi cael cyllid ar gyfer y prosiect cymunedol cyffrous hwn, a wnaeth ddwyn ynghyd llywodraethwyr ysgol, cynghorwyr cymuned ac aelodau eraill o’n cymuned i greu lle arbennig i bawb,’ meddai Fiona.

‘Mae gan blant yr ysgol, y cylch meithrin lleol a holl aelodau’r gymuned fynediad i’r ardd a’i chyfarpar chwarae synhwyraidd. Rwy’n hynod o falch o’r lle rydyn ni wedi’i greu.’

Bu’r prosiect yn bosibl drwy help gwirfoddolwyr o’r cymunedau lleol, gan gynnwys athrawon, llywodraethwyr ysgol, eu teuluoedd a chynghorau cymuned.

Mae’r ardd o fewn y tir cymunedol ar bwys y Ganolfan Gymunedol, felly gall holl ddisgyblion yr ysgol a thrigolion cymunedau lleol ddod i’r ardd, ac maen nhw eisoes wedi dechrau ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau lles a natur.

‘Dyma’r tro cyntaf y mae Fiona neu finnau wedi creu’r fath beth,’ meddai’r cydlynydd gwirfoddol a Llywodraethwr ysgol, Mike Bates. ‘Fe gymerodd hi gryn amser i ddechrau’r prosiect gan fod y canolfannau garddio lleol ar gau yn ystod yr ail gyfnod clo, ar yr union adeg yr oedd angen i ni brynu’r planhigion a’r planwyr.’

Gwnaeth busnesau lleol hefyd roi sglodion coed ac uwchbridd i ni.

‘Roedden ni’n ddigon ffodus o gael cymorth gan fusnesau lleol, gan gynnwys Pave Aways a roddodd yr holl bridd i ni a Hanson Aggregates a fu’n ddigon hael i roi’r graean i ni i greu’r llwybr hygyrch,’ ychwanegodd Mike.

Cynhaliwyd diwrnod agored yn 2021 i ddathlu’r ardd. Aeth y Cynghorydd Amanda Jenner iddo, gan wneud y fideo hwn i ddangos yr ardd.

Mae’r prosiect yn enghraifft wych o gydweithredu, ac o sut y gall cymryd yr amser i ystyried prosiect natur yn eich cymuned a chydweithio gyda’ch Partneriaeth Natur Leol eich helpu chi i gyflawni nodau eich prosiect.

Ewch i weld sut gall eich Partneriaeth Natur Leol eich helpu chi.

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS