English

Dewch i gael cyngor a chymorth

arbenigol ar gyfer eich prosiect adfer natur

Darllenwch am werth cudd y prosiect LNP – sy’n cysylltu’r bobl sy’n poeni am natur yn eu cymunedau, yn eu rhoi mewn cysylltiad â chwaraewyr allweddol ac yn eu cynorthwyo i drechu dirywiad byd natur yng Nghymru.

Mae Cydlynwyr Partneriaethau Natur Lleol ar reng flaen yr argyfwng natur yng Nghymru; yn cysylltu pobl sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn, yn ogystal â chyllido a rhedeg prosiectau sy’n gwella ac adfer natur leol.

Gall y prosiectau hyn amrywio o ailwampio trefniadau torri glaswellt, i feithrinfeydd coed, i ysgolion llyffantod, a llawer mwy.

Ond mae llawer o waith ein Cydlynwyr LNP yn digwydd y tu ôl i’r llenni. Gallai ymweld â’r LNP am gyngor cychwynnol fod yn gam cyntaf hanfodol wrth ddatblygu prosiect natur lleol.

Ond nid dyna ddiwedd y cymorth. Gall cydlynwyr helpu’r prosiect wedyn i wneud cysylltiadau â mudiadau perthnasol, cynorthwyo â chynigion cyllido a bod wrth law yn gyffredinol i gynorthwyo ag unrhyw broblemau neu roi arweiniad.

‘Llinell weld...i’r ddau gyfeiriad’
Ant Rogers yw’r Cydlynydd LNP dros Sir Benfro ac mae wedi gweithio yn y rôl hon (o dan deitlau gwahanol) am fwy na naw blynedd.

‘Rwy’n credu mai hwyluso yw’r rôl yn bennaf,’ meddai Ant. ‘Mae’r LNP yn darparu llinell weld rhwng pobl sy’n gweithio ar lawr gwlad a’r llywodraeth – i’r ddau gyfeiriad.’

Mae hyn yn hanfodol i gynlluniau Cymru ar gyfer gwella ac adfer natur. Ar un llaw, mae angen i’r swyddogion yn Llywodraeth Cymru sy’n gosod y cyfeiriad ac sy’n llunio polisïau ddeall y rhwystrau sy’n wynebu pobl sy’n gweithio ar lefel lawr gwlad.

Ar y llaw arall, mae unigolion a grwpiau cymunedol sy’n ymuno â’r achos yn gwybod eu bod yn cyfrannu at flaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r LNPs yn helpu Cymru i gyflawni’r gwaith adfer natur mewn modd cydlynol.

‘Rydyn ni’n cysylltu grwpiau cymunedol â’r darlun ehangach,’ ychwanega Ant, ‘ac yn cysylltu’r llywodraeth gyda’r bobl go iawn sy’n gwneud y gwaith.’

Un o’r enghreifftiau gorau o hyn yw’r gosodiad celf i ddod yng Nghadeirlan Tŷ Ddewi a gyllidwyd gan yr UE (Saesneg yn unig), sy’n cysylltu’r ddinas â Wexford, Iwerddon.

Bydd y darn, a gomisiynwyd gan Gysylltiadau Hynafol Cyngor Sir Penfro (Saesneg yn unig) a’i greu gan yr arlunydd enwog o Gymru, Bedwyr Williams (Saesneg yn unig), yn cynnwys tri chwch gwenyn enfawr sy’n symboleiddio’r gwenyn a roddodd Dewis Sant i Sant Aidan pan adawodd i sefydlu’r fynachlog yn Wexford.

Gwneud cysylltiadau
Gwnaeth y tîm Cysylltiadau Hynafol gysylltu ag Ant am gyngor ar gadw gwenyn i ddechrau, cyn cyflwyno cychod gwenyn newydd i’r ardal.

Ar ôl eu rhoi nhw mewn cysylltiad â Chymdeithas Gwenynwyr Sir Benfro (Saesneg yn unig), amlygodd Ant y ffaith y byddai cyflwyno gwenyn mêl yn creu cystadleuaeth â’r gwenyn brodorol am yr ardaloedd llawn blodau sydd eisoes yn brin.

Argymhellodd Ant eu bod yn cyfrannu at y peillwyr lleol drwy blannu mwy o flodau gwyllt – gan greu cynefin ehangach ynghyd â rhoi mêl gwell iddyn nhw.

Fe aeth ati i gysylltu’r tîm â Dr Sarah Beynon, Cyfarwyddwr y Bug Farm (Saesneg yn unig) a ffermwr lleol a oedd yn ‘hapus iawn i gynyddu’r amrywiaeth flodeuol’ yn ei gaeau gerllaw’r gadeirlan ‘er mwyn cefnogi gwenyn newydd ynghyd â gwenyn brodorol’.

Gan mai ychydig o amser sydd gan y prosiect, bydd angen rhywun arnyn nhw i gynnal a chadw’r ardal ar ôl i’r prosiect gau. I’r diben hwn, gwnaeth Ant gysylltu’r tîm ag EcoDewi (Saesneg yn unig), Grŵp Ecoleg ac Egni Penrhyn Dewi, sydd eisoes ‘yn ymhél yn weithredol â’r Gadeirlan i reoli rhai ardaloedd ar gyfer bioamrywiaeth a gweithgareddau cymunedol’, gan gynnwys gardd gymunedol.

Ynghyd â hyn, roedd y swyddog prosiect LNP, Aethne, wrth law i roi cyngor arbenigol i’r prosiect ar gostau a chyflenwyr hadau ar gyfer plannu blodau gwyllt, gan sicrhau’r effaith fwyaf bosibl i gyllidwyr y prosiect a bioamrywiaeth yr ardal.

Beth mae hyn yn ei olygu i natur yn Sir Benfro
Gwnaeth y cysylltiadau hyn beri i bobl leol a oedd yn poeni am natur leol gael sedd wrth y bwrdd i eirioli ar ran bioamrywiaeth.

Ynghyd â hyn, gwnaeth cyfraniad yr LNP ddenu mwy o adnoddau i’r ardal i greu cynefinoedd o’r hyn a oedd yn grant celfyddydau a diwylliant Ewropeaidd ar y dechrau.

Mae LNP Sir Benfro yn un enghraifft ymhlith llawer o brosiect sy’n creu gwe o bobl rhyng-gysylltiedig sy’n ymladd dros eu natur leol. Os oes gennych chi brosiect yr ydych angen cyngor arno, neu os ydych chi eisiau cysylltu â phobl eraill sy’n poeni am natur yn eich ardal, cysylltwch â’ch Partneriaeth Natur Leol.


Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brosiectau adfer natur Tŷ Ddewi yn yr erthygl ddiweddar hon,Why St Davids is Wales’ rising eco star’ (Saesneg yn unig).

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS