Bydd tri o gyn safleoedd tirlenwi yn Ynys Môn a Gwynedd yn cael eu trawsnewid yn hafan ar gyfer bioamrywiaeth a chadwraeth.
Bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy’r fenter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn helpu i adfer 30 acer o dir yng Nghlegir Mawr (Gwalchmai, Ynys Môn), 74 acer yn Ffridd Rasus (Harlech, Gwynedd) a 32 acer yn Llwyn Isaf (Penygroes, Gwynedd) er mwyn eu trawsnewid yn gynefinoedd cyfoethog ac amrywiol ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt.
Bydd y prosiectau’n cael effaith positif ar fioamrywiaeth yn yr ardaloedd hyn. Bydd y gwaith yn cynnwys plannu o gwmpas 40,000 o goed a llwyni yn y 3 safle, a chynyddu storfeydd dŵr er mwyn denu amffibiaid, pryfed, adar, mamaliaid naturiol a rheoli gweirgloddiau a phorfeydd.
Dywedodd y Deilydd Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Richard Dew:
‘Bydd y prosiect yn helpu Ynys Môn i gyflawni’r weledigaeth a’r amcanion sydd wedi’u nodi yn ein Cynllun Bioamrywiaeth.’
Fe ychwanegodd, ‘Mae bioamrywiaeth yn darparu nifer o’r adnoddau yr ydym ni’n dibynnu arnynt bob dydd megis bwyd, meddyginiaeth, ynni a deunyddiau crai. Bydd y prosiect nid yn unig yn gwella bioamrywiaeth yr Ynys ond bydd hefyd yn gwella’r amodau sydd yn cyfrannu at lesiant trigolion a chymunedau Ynys Môn.’
Mae prosiect adfer llwyddiannus eisoes wedi cael ei gwblhau yn safle tirlenwi Penhesgyn yn Ynys Môn.
Dywedodd Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Gareth Griffith:
‘Rydym yn falch iawn o gael gweithio ar y prosiect pwysig hwn i roi bywyd newydd i’r hen safleoedd tirlenwi hyn.’
‘Am ddegawdau, defnyddiwyd safleoedd Llwyn Isaf a Ffridd Rasus i gael gwared ar wastraff tŷ o bob cwr o Wynedd. Gan fod y ddau safle bellach wedi’u capio, byddant yn cael eu trawsnewid i greu gweirgloddiau a choetiroedd bioamrywiol.’
‘Dyma gyfle cyffrous i adfer a gwella bioamrywiaeth yr hen safleoedd diwydiannol hyn. Bydd manylion y gwaith trawsnewid ar gael i’r cyhoedd drwy wefan y prosiect a hefyd trwy’r gwaith ymgysylltu a fydd yn digwydd gydag ysgolion lleol, er mwyn i ddisgyblion allu cadw llygaid ar drawsnewidiad y tir dros amser.’
Darparwyd yr arian grant gan Lywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo adferiad natur. Y nod yw cefnogi prosiectau ledled Cymru i hybu bioamrywiaeth mewn cymunedau.
Bydd y tîm rheoli prosiect yn cynnwys swyddogion o’r Bartneriaeth Natur Leol, y ddau Awdurdod Lleol yn Ynys Môn a Gwynedd a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Eglurodd Chris Lazo, Rheolwr Partneriaethau Natur Lleol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:
‘Rydym yn falch iawn o ariannu’r prosiect hwn drwy gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.’
‘Nod y gronfa yw dod â phobl yn nes at y natur sydd ar garreg eu drws – a thrwy brosiectau fel hyn, sy’n trawsnewid safleoedd sydd wedi’u hamddifadu o natur i mewn i hafan ar gyfer bywyd gwyllt, bydd gan gymunedau fwy o fynediad at natur nag erioed.’
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS