English

Rhowch hwb i’ch gyrfa

gwirfoddolwch gyda’ch LNP

Mae ecolegydd preswyl Blaenau Gwent, Nadine Morgan, yn dweud wrthym ni sut gwnaeth gwirfoddoli gyda’i Phartneriaeth Natur Lleol ei galluogi i gael ei swydd ddelfrydol fel ecolegydd.

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gwirfoddoli’n arbennig o dda i’ch llesiant meddyliol, i gwrdd â phobl newydd a helpu eich cymuned.

Ond os ydych chi’n chwilio am yrfa ym maes gwarchod natur, gall gwirfoddoli gyda’ch Partneriaeth Natur Lleol hefyd helpu i wella’ch CV a rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fynd amdani. Holwch ecolegydd preswyl Blaenau Gwent, Nadine Morgan!

Dod â bioamrywiaeth i ysgolion BG
Dechreuodd Nadine ei gyrfa ddeng mlynedd yn ôl fel gwirfoddolwr gyda’r Bartneriaeth Natur Lleol (a alwyd yn Bartneriaeth Bioamrywiaeth bryd hynny), yn gweithio ar y Prosiect Gwella Bioamrywiaeth Ysgolion.

‘Roedd y prosiect yn gweithio gydag ysgolion i helpu i wella bioamrywiaeth ar dir ysgolion, creu cyfleoedd dysgu i blant ysgol ac i feithrin gwerthfawrogiad o warchod natur a bioamrywiaeth,’ meddai Nadine. ‘Dechreuodd y prosiect i gychwyn fel cynllun peilot gyda phum ysgol ledled y fwrdeistref, ond ymhen hir a hwyrach, fe wnaethon ni ehangu i 25 o ysgolion.’

Llwybr i gyflogaeth
Aeth ymlaen wedyn i gael y swydd Swyddog Bioamrywiaeth Ysgolion, lle y parhaodd i ddatblygu’r prosiect. Gweithiodd gyda phob ysgol i nodi’r adnoddau (neu’r diffyg adnoddau) bioamrywiaeth a oedd yn bodoli a lluniodd gynllun rheoli bioamrywiaeth unigol.

O 2016, ehangodd y prosiect i ganolbwyntio hefyd ar faterion amgylcheddol fel ailgylchu, dŵr a llifogydd, cynaliadwyedd a’r newid yn yr hinsawdd.

‘Mae’r amgylchedd naturiol yn adnodd anhygoel, sy’n cyflwyno’r lle delfrydol i ddatblygu sgiliau, gwella iechyd a llesiant ac ymwreiddio dinasyddiaeth, gan feithrin mwy o werthfawrogiad a dealltwriaeth o’n byd naturiol ar yr un pryd,’ meddai Nadine. ‘Mae’r rôl y mae ein pobl ifanc yn ei chwarae o ran datblygu systemau rhyngddibynnol y byd yn aruthrol o bwysig.’

Nadine Morgan Environment Awards

Gwobrau Trefi Taclus
Hyd yma, mae llawer o waith wedi’i wneud, yn gweithio gydag ysgolion i gynyddu’r fioamrywiaeth ar eu tiroedd a chodi ymwybyddiaeth o warchod bioamrywiaeth a rheoli adnoddau naturiol ymhlith plant ysgol.

Roedd y prosiect yn llwyddiannus tu hwnt, a daeth yn ail yng Ngwobrau Trefi Taclus 2012 a 2017 yn y wobr Gwella Amrywiaeth a’r wobr Dyfodol Cynaliadwy.

‘Fydden ni ddim ble ydw i heddiw…’
Nadine yw’r ecolegydd preswyl yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent bellach, yn rhoi cyngor ar draws gwasanaethau’r Cyngor, yn datblygu a chefnogi’r gwaith o roi’r Blaengynllun Bioamrywiaeth a Gwydnwch yr Ecosystem ar waith, ac yn cyfrannu at y Bartneriaeth Natur Lleol.

Nadine hefyd yw’r Cydlynydd Prosiect ar gyfer y prosiect cydweithredol, Gwent Gydnerth, a gyllidir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru.

‘Fydden i ddim ble ydw i heddiw heb wirfoddoli,’ meddai Nadine, ‘diolch i’m mhrofiad gwirfoddoli gyda’r Bartneriaeth ddeng mlynedd yn ôl, mae wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i’m helpu i ddatblygu fy ngyrfa. Nawr, rwyf yn fy swydd ddelfrydol, yn gweithio ar lawr gwlad i helpu i adfer a gwella natur yn y gymuned sy’n golygu gymaint i mi.’

I gael gwybod am gyfleoedd i wirfoddoli gyda’ch LNP a rhoi hwb i’ch gyrfa gadwraeth, cysylltwch â’ch LNP: biodiversitywales.org.uk/Lleol-i-chi

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS